Tim Addysg Dŵr Cymru yn cyrraedd nifer uchaf o ddisgyblion erioed gan ymgysylltu â mwy na 93,000 o ddisgyblion mewn un flwyddyn academaidd

0
273

Dwr Cymru Welsh Water News

Mae Dŵr Cymru wedi nodi blwyddyn eithriadol i’w Rhaglen Addysg, gan gyrraedd  93,897 o ddisgyblion, sef y nifer uchaf erioed – wedi’u lleoli ym mhob cornel o’i ardal cwsmeriaid.

Mae cyflawniadau eleni yn arbennig o arwyddocaol yng nghyd-destun adeiladu gwerth cymdeithasol, yn enwedig mewn ardaloedd o amddifadedd. Mae’r rhaglen, sy’n cynnig adnoddau addysg am ddim i bawb, yn cynnig profiadau dysgu o ansawdd uchel i ddisgyblion.  Mae hefyd yn gwella gwybodaeth a dealltwriaeth, yn unol â Chwricwlwm Cenedlaethol Cymru, ac yn meithrin ymdeimlad o gyfrifoldeb tuag at ddŵr.

Mewn agwedd unigryw at ddatblygiad proffesiynol i athrawon, mae’r cwmni nid er elw wedi secondio mwy na 80 o athrawon i’r cwmni hyd yma, gan gyfoethogi’r dirwedd addysg gyda gwybodaeth sy’n benodol i’r diwydiant a chreu amgylchedd dysgu mwy deinamig, sy’n efelychu’r byd go iawn i ddisgyblion. Mae hyn yn arbennig o arwyddocaol o fewn Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru, sy’n canolbwyntio ar y pedwar diben craidd – dysgwyr galluog, cyfranwyr mentrus, dinasyddion gwybodus ac unigolion hyderus.

Soniodd Claire Roberts, Pennaeth Ymgysylltu â’r Gymuned Dŵr Cymru, am effaith y Rhaglen: “Mae ein llwyddiant o gyrraedd mwy na 93,000 o ddysgwyr eleni yn dangos archwaeth a gwerth y gefnogaeth hon, sy’n ymgysylltu â chenedlaethau’r dyfodol wrth galon pob cymuned. Drwy secondio athrawon a chynnig addysg ymarferol, hygyrch, rydym yn cefnogi wrth lunio cenedlaethau i ddod, ond hefyd yn cyfrannu at werth cymdeithasol cymunedau.”

Dywedodd Ysgol Tremeirchion, am eu hymweliad: “Roedd cyflwyniad yr athro yn wych. Roedd pawb yn canolbwyntio ac yn awyddus i ateb cwestiynau.  Diolch yn fawr iawn! Roedd y gweithdy yn ymarferol, ond eto’n addysgiadol. Roedd pob disgybl ar dasg, hyd yn oed y rhai y mae weithiau’n anodd eu hysbrydoli!”

Dwr Cymru December 2022-Education Centre LOWRE

Mae’r rhaglen yn cynnig sesiynau addysg amgylcheddol awyr agored, gwasanaethau allgymorth mewn ysgolion, gweithdai yn yr ystafell ddosbarth, a sesiynau addysg byw, ar-lein, gan sicrhau bod y buddion yn mynd ymhell ac agos. Yn ystod y flwyddyn academaidd hon, mynychodd tua 60,000 o ddisgyblion wasanaeth, cymerodd 25,000 ran mewn gweithdai, a chymerodd 4,000 ran mewn addysg amgylcheddol awyr agored. Er y bydd rhai o’r 93,000 o ddisgyblion dan sylw wedi cymryd rhan mewn amryw o sesiynau, mae cydnabod bod 219,000 o ddisgyblion mewn addysg llawn amser mewn ysgolion cynradd yng Nghymru o leiaf yn cynnig ymdeimlad o faint a llwyddiant y rhaglen addysg hon. Er mai Caerdydd oedd â’r lefel cyfranogiad disgyblion mwyaf yn y rhaglen eleni, ardaloedd fel Merthyr Tudful, Caerffili a Chasnewydd sydd wedi cael y budd mwyaf mewn perthynas â’u poblogaethau disgyblion.

O’r 464 o ffurflenni gwerthuso a dderbyniwyd gan ysgolion, mynegodd 459 foddhad mawr â’r gefnogaeth a gynigir, gan adlewyrchu gwerth y rhaglen yn y sector addysg.

Gyda 700,000 o ddisgyblion wedi’u cyrraedd ers ei sefydlu ym 1998, mae Strategaeth Addysg Dŵr Cymru yn enghraifft o ymrwymiad sydd wedi’i wreiddio’n ddwfn mewn cyfrifoldeb cymdeithasol a meithrin gwybodaeth a sgiliau cenedlaethau’r dyfodol i ddiogelu ein hadnodd mwyaf gwerthfawr.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle