Mae Ysgol Gynradd Felinfach wedi codi dros £700 ar gyfer yr uned ddydd cemotherapi yn Ysbyty Bronglais drwy gynnal prynhawn coffi.
Yn ystod y digwyddiad, a gynhaliwyd ar 14eg Mehefin ar fuarth yr ysgol, bu rhieni a chefnogwyr yn mwynhau coffi, te a chacen a phrynu nwyddau gan y disgyblion oedd ag amrywiaeth o stondinau. Cawsant gyfle hefyd i gymryd rhan mewn raffl.
Dywedodd yr athrawes Rhian England: “Roedd yn ddiwrnod hyfryd a chafwyd cefnogaeth wych gan rieni a chymuned yr ysgol.
“Fe wnaethon ni godi cyfanswm o £724. Pan fyddwch chi’n meddwl bod y prynhawn coffi wedi para tua dwy awr yn unig, mae hynny’n swm anhygoel!
“Diolch yn fawr iawn i bawb a ddaeth i gefnogi’r ysgol. Braf oedd gweld cymaint o rieni a chefnogwyr o’r gymuned yn mwynhau paned a sgwrs.”
I gael rhagor o fanylion am Elusennau Iechyd Hywel Dda a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion GIG lleol, defnyddwyr gwasanaeth a staff yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle