Bydd dychymyg rhai ifanc ar ei anterth yr haf hwn gyda Theatrau Sir Gâr a Taking Flight Theatre

0
239

Mae cynulleidfaoedd ifanc yn cael gwledd yr haf hwn wrth i dymor theatr awyr agored Theatrau Sir Gâr ym Mharc Gwledig Pen-bre – Theatrau Sir Gâr yn y Parc – gynnig antur hudolus i’r teulu gyda chwmni Taking Flight Theatre.

Mae The Conjurer of Cwrtycadno yn gynhyrchiad theatr a helfa drysor ac yn antur hygyrch i’r teulu gydag Iaith Arwyddion Prydain integredig a disgrifiad sain byw. Cynhelir y cynhyrchiad yn amgylchedd hudolus Parc Gwledig Pen-bre ddydd Mawrth, 22 Awst am 11am, 2pm a 5pm.

Mae’r stori’n dilyn hanes merch ifanc o’r enw Heledd Harries. Wrth ymchwilio i’w llinach yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, mae Heledd yn darganfod llyfr swynion gan ei hen, hen, hen, hen-dad-cu. Nid oedd Heledd yn gwybod dim am yr hud a lledrith yn ei gwaed hi na’r drafferth yr oedd hi ar fin ei achosi drwy ryddhau grym y swynion Cymreig o fewn tudalennau’r llyfr. Bellach mae angen cymorth y teuluoedd lleol arni i gael cannoedd o Dylwyth Teg dryslyd yn ôl adref. Mae’r stori hudolus hon, yr ail yng nghyfres Adran Digwyddiadau Rhyfedd Taking Flight a LAStheatre (y stori gyntaf oedd Achos Rhyfeddol Aberlliw a ysbrydolwyd gan y cyfnod clo), yn ddathliad o lên gwerin o Gymru, hud a lledrith a’r tymhorau’n newid. Ar ôl gwylio cyflwyniad byr i’r sioe, mae’r gynulleidfa’n mynd i chwilio am dai tylwyth teg ar hyd llwybr hygyrch lle mae’n rhaid iddynt ddarganfod pa dylwyth teg sy’n perthyn i ba dŷ.

Mae’r cast yn cynnwys Jenna Preece, Stephanie Bailey-Scott, Sam Bees, Macsen McKay, Gethin Roberts, ac Ioan Gwyn.

Gyda phymtheg mlynedd o brofiad, cenhadaeth cwmni Taking Flight Theatre yw gwneud theatr yn fwy hygyrch i gynulleidfaoedd ac i berfformwyr fel ei gilydd. Mae’r cwmni’n cymryd risgiau o ran mynediad creadigol i wneud cynyrchiadau theatr beiddgar, anarferol gyda pherfformwyr byddar, anabl,

niwroamrywiol a rhai heb anabledd. Maent yn teithio o amgylch Cymru a thu hwnt ac yn aml yn mynd i leoedd diarffordd, yn ogystal â lleoliadau theatr traddodiadol. Ynghyd â theithio, mae’r cwmni’n meithrin y genhedlaeth nesaf o dalentau byddar, anabl a niwroamrywiol, a hynny ar y llwyfan a’r tu ôl i’r llenni.

Pris tocynnau ar gyfer The Conjurer of Cwrtycadno yw £5 a gellir eu prynu ar-lein drwy fynd i www.theatrausirgar.co.uk neu drwy ffonio’r Swyddfa Docynnau ar 0345 2263510 rhwng 10am a 3pm, o ddydd Mawrth tan ddydd Sadwrn.

Gallwch gael mwy o wybodaeth am y cwmni Taking Flight Theatre drwy fynd i www.takingflighttheatre.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle