Theatrau Sir Gâr yn cynnal ‘Brwydr y Bardd’ ym Mharc Gwledig Pen-bre yr haf hwn

0
267

Bydd Theatrau Sir Gâr yn gosod llwyfan ym Mharc Gwledig Pen-bre ym mis Awst eleni am dymor o ddigwyddiadau awyr agored a bydd yn croesawu darn newydd ffarsaidd gan y dramodydd arobryn Michael Davies, sy’n edrych ar waith yr athrylith Shakespeare. Bydd MacHamLear gan Heartbreak Productions yn ymddangos ar y llwyfan ddydd Llun 21 Awst am 7pm.

Bydd MacHamLear yn arbrawf unigryw a fydd yn ateb y cwestiwn sy’n cadw ysgolheigion llenyddol yn effro yn y nos… pa ddrama yw’r orau sydd gan y Bardd i’w chynnig? Bydd y gynulleidfa yn cael cyfle i benderfynu drwy fod yn rhan o gystadleuaeth theatr newydd gyffrous o’r enw Will of the People. Yn Rownd Un byddwn yn gosod Macbeth, Hamlet, a King Lear benben â’i gilydd, wrth i’r actorion gyflwyno eu hachos dros pam y dylid perfformio’u trasiedi, er mwyn ennill lle yn rownd nesaf y gystadleuaeth. Bydd y tair drama eiconig yn cael eu perfformio yn yr awyr agored, felly bydd yn gyfle i’r gynulleidfa brofi gweithiau clasurol Shakespeare gyda phicnic yn amgylchoedd prydferth Parc Gwledig Pen-bre.

Mae Heartbreak Productions bellach wedi bod yn dod â phrofiadau theatr awyr agored unigryw i gynulleidfaoedd ledled y DU, gan berfformio clasuron Prydeinig cyfarwydd mewn lleoliadau annisgwyl, godidog am 31 o flynyddoedd.

Pris tocynnau ar gyfer MacHamLear yw £15, £12 (consesiynau) a £48 (teulu o bedwar) a gellir eu prynu ar-lein drwy fynd i www.theatrausirgar.co.uk neu drwy ffonio’r Swyddfa Docynnau ar 0345 2263510, rhwng 10am a 3pm, o ddydd Mawrth i ddydd Sadwrn.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle