Nid yw dallineb a nam ar y golwg yn atal cleientiaid Delta CONNECT rhag chwarae bowls

0
288

Y rhan fwyaf o foreau Mercher fe welwch Rhianedd Jones, un o gleientiaid CONNECT Sir Gaerfyrddin, yn mwynhau gêm gyfeillgar o fowls.

Mae hi’n mynd i Glwb Bowlio i Bobl â Nam ar eu Golwg gyda Chymdeithas Bowlio Aman Gwendraeth yng Nghanolfan Bowlio Dan Do Dinefwr yn Rhydaman.

Sefydlwyd y grŵp bowlio cymdeithasol yn 2015 i unrhyw un sydd ag unrhyw nam ar y golwg, o bob oedran a gallu.

Dywedodd Rhianedd, sy’n 79 oed: “Rydw i wrth fy modd yn mynd i Glwb Cymdeithasol y Deillion Aman Gwendraeth (GABS) gan fy mod i’n gallu cwrdd â llawer o wahanol bobl sydd â phroblemau â’u golwg a gallwn roi awgrymiadau i’n gilydd.

“Mae’n ffordd o gael seibiant oddi wrth fy ngŵr a gallaf ddweud wrth John am y pethau sy’n digwydd yn y clwb, ac mae hynny’n ysgafnhau ei ddydd.”

Dywedodd Brian Hobart, y Cadeirydd, ei fod wedi meddwl am y syniad ar gyfer y clwb gan nad oedd unrhyw weithgareddau eraill ar gyfer pobl yn yr ardal sy’n byw â nam ar eu golwg. Cysylltodd â Chanolfan Bowlio Dan Do Dinefwr a chynigiodd sefydlu grŵp ar gyfer pobl â nam ar eu golwg.

Dywedodd: “Nid oedd y ganolfan erioed wedi gwneud unrhyw beth fel hyn o’r blaen, felly fe ddaethon ni i drefniant a chynnal diwrnod agored ym mis Awst 2015, ac roedd gennym ni ddigon o ddiddordeb i agor clwb bach ym mis Medi 2015.”

Dywedodd fod y clwb wedi tyfu i fod yn gymuned fach sydd wedi mynd o nerth i nerth, ac erbyn hyn mae gan y clwb dri llawr bowlio a chwe hyfforddwr.

Dywedodd Mr Hobart: “Mae gan bob un ohonom nam ar ein golwg ac nid oedd yr un ohonom wedi chwarae bowls o’r blaen. Rydym i gyd ar wahanol lefelau ac erbyn hyn mae gennym ddau aelod sydd wedi ennill medalau dros Gymru.”

Cofrestrodd Christine Llewelyn, sef aelod arall o’r clwb, ar gyfer Delta CONNECT ar gyfer ei gŵr Kenneth.

Dywedodd: “Rwy’n mwynhau dod i’r clwb a threulio amser gyda phawb. Mae’n braf cael mynd allan o’r tŷ am ychydig a chwrdd â ffrindiau.”

Mae Delta CONNECT yn wasanaeth teleofal a llinell bywyd ar draws Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion ac mae’n cynnwys pecynnau Gofal trwy Gymorth Technoleg, galwadau llesiant rhagweithiol, mynediad at dîm ymateb cymunedol 24/7, a chymorth a gweithgareddau llesiant eraill i helpu pobl i fyw mor annibynnol â phosibl.

Dywedodd Mrs Llewelyn ei bod wedi defnyddio’r gwasanaeth ymateb ar sawl achlysur gan fod ei gŵr yn cwympo yn y cartref.

“Rwy’n cofio un tro, fe gwympodd Kenneth yn yr ardd ac roedd y tîm ymateb yno o fewn hanner awr ar ôl gwasgu larwm y llinell gymorth,” meddai.

“Pan gwympodd Kenneth, doedd dim gobaith imi ei godi heb gymorth. Rwy’n ddiolchgar am y tîm ymateb.”

Mae’r tîm ymateb yn cynorthwyo ag argyfyngau anfeddygol fel codymau nad ydynt wedi achosi anaf ac anghenion lles eraill ac mae’n rhoi sicrwydd i’r cwsmeriaid a’u teuluoedd bod cymorth ar gael bob amser pe bai ei angen arnynt.

Cofrestrodd Mrs Jones ar gyfer y gwasanaeth yn 2021 ar gyfer ei gŵr John ac mae’n gweld y galwadau llesiant yn arbennig o ddefnyddiol.

Mae tîm rhagweithiol Llesiant Delta yn gwneud galwadau rheolaidd i gefnogi anghenion llesiant a lles. Gall y rhain fod yn wythnosol, yn fisol, neu’n chwarterol, yn dibynnu ar anghenion penodol cleient. Fis diwethaf gwnaeth y tîm gyfanswm o 2,988 o alwadau rhagweithiol ar draws y tair sir. Maent hefyd yn annog cleientiaid i gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n bwysig i’w llesiant, er enghraifft, nodi a darparu cymorth i fynychu grwpiau cymunedol o ddiddordeb.

Dywedodd Mrs Jones: “Mae Tracy (o’r tîm rhagweithiol) a minnau wedi dod yn eithaf cyfeillgar yn ystod ein sgyrsiau. Rwy’n edrych ymlaen atynt. Nid gofal yn unig ydyw, ond cyfeillgarwch.”

Mae Delta CONNECT, sydd ar hyn o bryd am ddim am y tri mis cyntaf, yn cael ei ariannu gan Gronfa Integreiddio Rhanbarthol (RIF) Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, a hynny trwy Fwrdd Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.llesiantdelta.org.uk neu ffoniwch un o ymgynghorwyr cyfeillgar Llesiant Delta, 0300 333 2222.

Mae Llesiant Delta, Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol sy’n eiddo i Gyngor Sir Caerfyrddin, yn darparu technoleg gynorthwyol a monitro rhagweithiol i gefnogi pobl hŷn a phobl agored i niwed i fyw’n annibynnol gartref am gyfnod hwy.

Mae Clwb Bowlio i Bobl â Nam ar eu Golwg Clwb Cymdeithasol Bowlio Aman Gwendraeth yn cwrdd bob dydd Mercher yng Nghanolfan Bowlio Dan Do Dinefwr yn Rhydaman am 10am. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â’r clwb drwy ffonio 01269 597969.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle