Gwagio swyddfa heddlu sy’n cael ei rhentu yn Sanclêr

0
231

Bydd yr ystafell sy’n cael ei rhentu gan yr heddlu yn Sanclêr, sy’n cael ei rhedeg gan y cyngor tref yn ‘Y Gât’, yn cael ei gwagio, yn unol â newidiadau ehangach a fydd yn moderneiddio ac yn gwella’r gwasanaeth plismona yn Sir Gaerfyrddin.

Bydd swyddogion sy’n gwasanaethu cymuned Sanclêr yn parhau i weithio o’u canolfan yn Hendy-gwyn ar Daf ac yn parhau i sicrhau presenoldeb amlwg ac ymgysylltu effeithiol â phreswylwyr a busnesau yn Sanclêr.

Mae’r gwerthiant hwn yn rhan o raglen newid ar draws Heddlu Dyfed-Powys, lle mae ystadau, technoleg a’r offer sydd ar gael i swyddogion a staff yn dod at ei gilydd i wella plismona a’r gwasanaeth i gymunedau.

Dywedodd y Prif Gwnstabl, Dr Richard Lewis:

Gwnaed y penderfyniad hwn yn dilyn gwerthuso gofalus i wneud y defnydd gorau o adnoddau a chyflwyno gwasanaeth heddlu effeithiol sy’n bodloni anghenion a disgwyliadau ein cymunedau.

“Mae gwagio’r eiddo hwn yn gam ymlaen o ran moderneiddio a gwella ein gwasanaethau, gan alluogi swyddogion i barhau â’u gwaith yn fwy effeithiol ac effeithlon.

“Mae’r penderfyniad wedi’i wneud â buddiannau gorau trethdalwyr a’r gymuned mewn golwg, gan nad yw’r adeilad presennol yn cael ei ddefnyddio’n weithredol mwyach.

Rydw i eisiau sicrhau’r gymuned leol fod Heddlu Dyfed-Powys wedi ymrwymo i gynnal yr un lefel o wasanaeth a chymorth ar gyfer ein cymunedau lleol, ac na fydd preswylwyr a busnesau yn San Clêr yn gweld unrhyw wahaniaeth.

Bydd eich tîm plismona bro lleol yn parhau i ddarparu presenoldeb amlwg ac ymgysylltu effeithiol â phreswylwyr a busnesau.”

Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu:

“Yn hanesyddol, mae sôn am symud canolfannau heddlu neu gau a gwerthu gorsafoedd wedi sbarduno naratif o heddlu’n symud allan o gymunedau, ofnau am amseroedd ymateb, a phryderon am gynnydd mewn trosedd ac anhrefn.

“Fodd bynnag, mae’r Prif Gwnstabl, Dr Richard Lewis, wedi fy sicrhau na fydd unrhyw wahaniaeth yn lefel y gwasanaeth i’r cyhoedd yn San Clêr o ganlyniad i’r penderfyniad ystadau hwn.

“Fel Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu, rwyf eisiau sicrhau’r cyhoedd fod ein hymrwymiad tuag at sicrhau diogelwch ein cymunedau dal yn flaenoriaeth inni, er waethaf y penderfyniad i wagio’r eiddo yn Sanclêr.

“Rwy’n cydnabod y gall newid fod yn heriol, ond gallaf eich sicrhau y bydd y cam strategol hwn yn caniatáu Heddlu Dyfed-Powys i bennu adnoddau’n fwy effeithlon ac yn gwella eu hymdrechion plismona.

“Yn yr oes ddigidol hon, yr ydym yn ffodus i gael sianeli amrywiol drwy ba rai y gall pobl gysylltu â Heddlu Dyfed-Powys. Yn ogystal â galwadau ffôn, yr ydym yn annog pobl i archwilio dulliau ar-lein a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol a ddefnyddir gan yr Heddlu. Mae’r llwyfannau hyn yn aml yn darparu diweddariadau gwerthfawr, cyngor atal trosedd, a chyfleoedd ymgysylltu cymunedol, gan alluogi pobl i gysylltu ac ymgysylltu â’r heddlu a chael gwybod am faterion lleol.

“Drwy ddefnyddio’r sianeli amgen hyn, gyda’n gilydd, medrwn gyfrannu at blismona mwy effeithiol ac ymatebol, gan alluogi Heddlu Dyfed-Powys i ganolbwyntio ar sefyllfaoedd argyfyngus, ac ar yr un pryd, mynd i’r afael ag anghenion â phryderon ein cymuned.

“Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon, fe’ch anogaf i gysylltu â’m swyddfa. Yr ydym yn gwerthfawrogi eich mewnbwn a’ch cefnogaeth barhaus o ran sicrhau diogelwch a lles ein cymunedau.”

Gall cymunedau lleol gyfrannu at blismona mwy effeithlon ac ymatebol drwy ddefnyddio dulliau cysylltu ar-lein. Os oes angen yr heddlu arnoch pan nad yw’n argyfwng, cewch gysylltu â nhw drwy neges uniongyrchol ar Facebook, Twitter neu Instagram, ar-lein, drwy anfon e-bost at 101@dyfed-powys.police.uk, neu drwy alw 101. Os ydych chi’n fyddar neu’n drwm eich clyw, neu os oes gennych nam ar eich lleferydd, anfonwch neges destun at y rhif difrys 07811 311 908.

Dilynwch Heddlu Caerfyrddin, Hendy-gwyn ar Daf a Sanclêr ar Facebook a @DPPCarmarthen ar Twitter i gael gwybodaeth am holl ddigwyddiadau ymgysylltu, apeliadau a newyddion yr heddlu.

Os oes trosedd yn digwydd, neu os oes perygl i fywyd, perygl o anaf difrifol, neu ddifrod i eiddo, galwch 999 bob amser.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle