Gwerthu Hen Orsaf Heddlu Cydweli

0
287

Bydd yr eiddo a oedd unwaith yn gartref i’r orsaf heddlu yng Nghydweli’n cael ei werthu, yn unol â newidiadau ehangach a fydd yn moderneiddio ac yn gwella’r gwasanaeth plismona yn Sir Gaerfyrddin.

Bydd swyddogion sy’n gwasanaethu cymuned Cydweli’n parhau i weithio o’u canolfan yng Ngorsaf Dân Cydweli a Phorth Tywyn ac yn parhau i sicrhau presenoldeb amlwg ac ymgysylltu effeithiol â phreswylwyr a busnesau yng Nghydweli.

Mae’r gwerthiant hwn yn rhan o raglen newid ar draws Heddlu Dyfed-Powys, lle mae ystadau, technoleg a’r offer sydd ar gael i swyddogion a staff yn dod at ei gilydd i wella plismona a’r gwasanaeth i gymunedau.

Dywedodd y Prif Gwnstabl, Dr Richard Lewis:

Gwnaed y penderfyniad hwn yn dilyn gwerthuso gofalus i wneud y defnydd gorau o adnoddau a chyflwyno gwasanaeth heddlu effeithiol sy’n bodloni anghenion a disgwyliadau ein cymunedau.

Mae’r adeilad wedi cael ei lesio i fanc bwyd lleol dros y ddwy flynedd diwethaf, ac mae’r cyfle hwn yn caniatáu i bob parti ystyried caffael a rhyddhau’r ased er sicrwydd a budd cyhoeddus ehangach.

Mae gwerthu’r eiddo hefyd yn gam ymlaen o ran moderneiddio a gwella ein gwasanaethau, gan alluogi swyddogion i barhau â’u gwaith yn fwy effeithiol ac effeithlon.

Mae’r penderfyniad wedi’i wneud â buddiannau gorau trethdalwyr a’r gymuned mewn golwg, gan nad yw’r adeilad presennol yn weithredol mwyach.

Rydw i eisiau sicrhau’r gymuned leol fod Heddlu Dyfed-Powys wedi ymrwymo i gynnal yr un lefel o wasanaeth a chymorth ar gyfer ein cymunedau lleol, ac na fydd preswylwyr a busnesau yng Nghydweli’n gweld unrhyw wahaniaeth.

Bydd eich tîm plismona bro lleol yn parhau i ddarparu presenoldeb amlwg ac ymgysylltu effeithiol â phreswylwyr a busnesau.”

Bydd yr adeilad ym Manc Pendre, Cydweli, yn mynd i’r farchnad yn ystod y dyddiau nesaf.

Dywedodd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu: Nid yw’r hen orsaf heddlu yng Nghydweli wedi’i defnyddio’n weithredol fel Gorsaf Heddlu ers sawl blwyddyn, yn dilyn penderfyniad gan Heddlu Dyfed-Powys i uno’r ganolfan heddlu â Gorsaf Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yng Nghydweli.

Mae penderfyniad wedi’i wneud yn awr fel rhan o gynlluniau Ystadau ehangach yn Heddlu Dyfed-Powys i werthu’r eiddo, sy’n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd fel canolfan adnoddau gwledig sy’n hwyluso cymorth amrywiol ar gyfer yr ardal ehangach.

Yn hanesyddol, mae sôn am symud canolfannau heddlu neu gau a gwerthu gorsafoedd wedi sbarduno naratif o heddlu’n symud allan o gymunedau, ofnau am amseroedd ymateb, a phryderon am gynnydd mewn trosedd ac anhrefn. Gan hynny, hoffwn sicrhau’r gymuned leol nad yw Heddlu Dyfed-Powys yn tynnu ei wasanaethau allan o dref Cydweli.

Mae cydweithio â gwasanaethau brys golau glas eraill i ddarparu canolfan weithredol sy’n addas ar gyfer y diben yn gam ymlaen o ran moderneiddio a gwella ein gwasanaethau, ac yn galluogi ein swyddogion i barhau â’u gwaith hollbwysig â gwell effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd.”

“Ym mis Mai eleni, agorom ddalfa a chanolfan Heddlu gynaliadwy amlbwrpas newydd ar gyrion Llanelli, yn ardal Dafen. Mae’r cyfleuster newydd hwn ar gyfer Sir Gaerfyrddin yn gam ymlaen o ran moderneiddio a gwella ein gwasanaethau.

“Yn yr oes ddigidol hon, yr ydym yn ffodus i gael sianeli amrywiol drwy ba rai y gall pobl gysylltu â Heddlu Dyfed-Powys. Yn ogystal â galwadau ffôn, yr ydym yn annog pobl i archwilio dulliau ar-lein a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol a ddefnyddir gan yr Heddlu. Mae’r llwyfannau hyn yn aml yn darparu diweddariadau gwerthfawr, cyngor atal trosedd, a chyfleoedd ymgysylltu cymunedol, gan alluogi pobl i gysylltu ac ymgysylltu â’r heddlu a chael gwybod am y materion lleol diweddaraf.

Drwy ddefnyddio’r sianeli amgen hyn, gyda’n gilydd, medrwn gyfrannu at blismona mwy effeithiol ac ymatebol, gan alluogi Heddlu Dyfed-Powys i ganolbwyntio ar sefyllfaoedd argyfyngus, ac ar yr un pryd, mynd i’r afael ag anghenion â phryderon ein cymuned.

Os oes gan unrhyw un gwestiynau neu bryderon, fe’ch anogaf i gysylltu â’m swyddfa. Yr ydym yn gwerthfawrogi eich mewnbwn a’ch cefnogaeth barhaus o ran sicrhau diogelwch a lles ein cymunedau.”

Gall cymunedau lleol gyfrannu at blismona mwy effeithlon ac ymatebol drwy ddefnyddio dulliau cysylltu ar-lein. Os oes angen yr heddlu arnoch pan nad yw’n argyfwng, cewch gysylltu â nhw drwy neges uniongyrchol ar Facebook, Twitter neu Instagram, ar-lein, drwy anfon e-bost at 101@dyfed-powys.police.uk, neu drwy alw 101. Os ydych chi’n fyddar neu’n drwm eich clyw, neu os oes gennych nam ar eich lleferydd, anfonwch neges destun at y rhif difrys 07811 311 908.

Dilynwch eich Timoedd Plismona Bro yng Nghydweli, Porth Tywyn, Pump-heol a Phont-henri ar Facebook a @DPPBurryPort ar Twitter i gael gwybodaeth am holl ddigwyddiadau ymgysylltu, apeliadau a newyddion yr heddlu.

Os oes trosedd yn digwydd, neu os oes perygl i fywyd, perygl o anaf difrifol, neu ddifrod i eiddo, galwch 999 bob amser.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle