Dweud eich dweud! Helpwch i lunio dyfodol eich Gwasanaeth Tân ac Achub!

0
199

Mid & W Wales Fire News

A wyddoch chi fod ardal Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru bron yn 12,000 cilomedr sgwâr – sef bron i ddwy ran o dair o Gymru?

Video: https://www.youtube.com/watch?v=m_ssc1a58JE

Mae’r Gwasanaeth yn gyfrifol am ddarparu gwybodaeth diogelwch i’r cyhoedd, rhaglenni atal ac amddiffyn, a darpariaeth ymateb brys ar gyfer ardal canolbarth a gorllewin Cymru. Byddem wrth ein bodd yn clywed eich barn ar beth yw eich disgwyliadau o’r Gwasanaeth, yn ogystal â’r hyn sy’n bwysig i chi a’r hyn y credwch y dylem ei flaenoriaethu. Felly, beth am gymryd rhan yn y drafodaeth a rhannu eich barn ar y gwerth a roddwch ar y gwasanaethau a ddarparwn, a’r hyn y dylem ei wneud i’w diogelu?

Gwerthfawrogir eich cymorth a’ch cefnogaeth a bydd cwblhau’r arolwg hwn yn ein helpu i gasglu gwybodaeth am y cymunedau yr ydym yn ymgysylltu â nhw, a fydd yn ein helpu i deilwra ein gwasanaethau yn briodol, gan ein galluogi i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl i’r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.

Mae’r ffurflen yn ddienw ac yn gyfrinachol, felly ni fyddwch yn cael eich adnabod gan unrhyw wybodaeth a roddir. Os hoffech gael yr holiadur hwn mewn iaith/fformat gwahanol, cysylltwch â ni ar 0370 6060699.

Rydym yn cydnabod bod gwrando ar eich barn yn hanfodol os yw’r Gwasanaeth am barhau i ddarparu gwasanaeth effeithiol, effeithlon a gwell i’ch cadw chi a’ch teuluoedd yn ddiogel. Cymerwch ran yn y drafodaeth trwy rannu eich barn ar ddyfodol eich Gwasanaeth Tân ac Achub. I gael gwybod mwy a chymryd rhan yn ein harolwg ar-lein ewch i’n gwefan Dweud eich dweud – Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (tancgc.gov.uk)

Diolch am eich cefnogaeth a chyfranogiad.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle