Cyfeillion Gofal Iechyd Crymych yn rhoi dros £4000

0
204
Yn y llun uchod gwelir: Cyfeillion Gofal Iechyd Crymych yn cyflwyno siec i staff Canolfan Adnoddau Bro Preseli

 Ar ôl 30 mlynedd o godi arian, cyflwynodd Cyfeillion Canolfan Iechyd Crymych eu siec derfynol o £4,599.47 i Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

Bydd yr arian yn mynd tuag at Ganolfan Iechyd Crymych a nyrsys ardal er budd y cleifion lleol, gan fod yr arian hwn wedi’i roi gan y gymuned leol er budd cleifion Crymych a’r cyffiniau.

 Dywedodd Hywel Lewis, Aelod o’r Pwyllgor: “Ar ôl dros 30 mlynedd o godi arian tuag at y ganolfan iechyd leol, yn anffodus, mae Cyfeillion Canolfan Iechyd Crymych wedi dod i ben.

 “Dros y blynyddoedd, fe brynon ni welyau, cadeiriau olwyn a nifer o ddarnau eraill o offer meddygol i gynorthwyo nyrsys i ofalu am eu cleifion yn y gymuned leol. Yn ystod y 30 mlynedd fe wnaethom godi mwy na £30,000, a oedd yn cynnwys rhoddion gan deuluoedd er cof am eu hanwyliaid. Oherwydd oedran aelodau’r pwyllgor rydym wedi penderfynu rhoi’r gorau iddi ac wedi trosglwyddo’r arian sy’n weddill i Wasanaethau Cymunedol Sir Benfro.

 “Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i’r holl bobl leol a’n cefnogodd yn ystod y cyfnod hwn a hefyd i ddiolch yn fawr iawn i’r nyrsys a’r meddygon am eu hymroddiad i’r cleifion dros y blynyddoedd.”

 Dywedodd Joanne Riggs, Rheolwr Gwasanaeth Busnes – Gwasanaethau Iechyd Meddwl a Chymunedol Sylfaenol: “Gan holl staff y Bwrdd Iechyd yng Nghanolfan Adnoddau Bro Preseli a Thîm Cymunedol Sir Benfro, diolch YN FAWR i Gyfeillion Gofal Iechyd Crymych am eu hymroddiad i godi arian ar gyfer y Ganolfan am y 30 mlynedd diwethaf.

 “Diolch am eu cefnogaeth garedig a hael, mae’r Bwrdd Iechyd wedi prynu eitemau amrywiol ac mae hyn yn ei dro wedi helpu i gefnogi cleifion lleol a’r gymuned. Rydym yn ddiolchgar iawn am y rhodd olaf hon, a fydd yn cael ei defnyddio er budd y gymuned leol”.

 Bydd y gymuned leol yn gallu parhau i gefnogi gwasanaethau a gweithgareddau y tu hwnt i wariant craidd y GIG yn eu hardal drwy godi arian a chyfrannu drwy Elusennau Iechyd Hywel Dda.

 I gael rhagor o fanylion am elusen y GIG a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle