Y SAMARIAID YN HYRWYDDO EU LLINELL GYMORTH GYMRAEG YN EISTEDDFOD 2023

0
277
Eisteddfod

Mae Samariaid Bangor wedi bod yn cynnig cymorth emosiynol yn Gymraeg i unrhyw un sydd ei angen ac yn hyrwyddo eu gwasanaeth Cymraeg yn yr Eisteddfod eleni. 

Mae eu cerbyd allgymorth wedi’i leoli yn ymyl gardd wrando’r Samariaid, a ddangoswyd am y tro cyntaf yn Sioe Flodau’r RHS yn Chelsea ym mis Mai. Cafodd yr ardd ei hail-lunio ac mae wedi bod ar daith i wyliau ar draws y DU yr haf hwn er mwyn codi ymwybyddiaeth am y cymorth mae’r Samariaid yn ei roi i bobl mewn gwyliau ers hanner canrif. 

Yr wythnos hon, mae’r Eisteddfod wedi croesawu Gardd Wrando’r Samariaid ar ei newydd wedd er mwyn cynnig lle i bobl eistedd, myfyrio, siarad a gwrando yn Gymraeg. Cafodd ei dylunio hefyd i bwysleisio effaith yr elusen, sy’n achub bywydau, ar gymunedau gwyliau ledled Cymru a’r DU. 

Sefydlwyd y llinell gymorth Gymraeg yn 2010 i helpu siaradwyr Cymraeg yr oedd angen cymorth emosiynol arnynt.

I gyd-fynd â phresenoldeb y Samariaid yn y Sioe Frenhinol a’r Eisteddfod, mae hysbyseb deledu Gymraeg y Samariaid wedi cael ei dangos ar S4C, gyda’r gobaith y bydd yn codi ymwybyddiaeth. 

Dywedodd Neil Ingham, Cyfarwyddwr Gweithredol dros Gymru – 

‘Rydym yn gwybod bod cael cymorth emosiynol yn eich iaith gyntaf yn dyngedfennol, ac yn gobeithio y bydd hyrwyddo ein hymrwymiad i’r Gymraeg yn annog mwy o siaradwyr Cymraeg i gysylltu â ni. Mae’r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn anodd; mae’r pandemig a’r argyfwng costau byw wedi gwaethygu anghydraddoldeb, a chafwyd effaith ddifrifol iawn ar y rhai a oedd yn cael trafferth eisoes. Rydym yma i unrhyw un sy’n stryglan yn unrhyw le yng Nghymru, yn Gymraeg neu yn Saesneg. 

Rydym hefyd yn gobeithio y bydd hyrwyddo’r gwasanaeth yn yr Eisteddfod eleni yn helpu i ddenu gwirfoddolwyr newydd sy’n medru’r Gymraeg. Mae’n hollbwysig ein bod ni’n cynnal ac yn gwella’r gwasanaeth, gan fod angen cymorth arnom bob amser i fodloni’r galw.’ 

Er mwyn parhau i gynorthwyo siaradwyr Cymraeg, mae’r Samariaid hefyd yn chwilio am wirfoddolwyr newydd. 

Eisteddfod

P’un a ydych chi’n siarad Cymraeg neu Saesneg yn unig, mae llawer o ffyrdd y gallwch gynorthwyo’r Samariaid fel gwirfoddolwr yng Nghymru.  Mae’r Samariaid yn adnabyddus am y cymorth maen nhw’n ei gynnig i bobl sy’n eu ffonio ond maen nhw hefyd yn cynnig cymorth trwy e-bost, wyneb yn wyneb a thrwy lythyron. Yr enw ar helpu’r Samariaid fel hyn yw bod yn wirfoddolwr gwrando. Fodd bynnag, does dim rhaid ichi fod yn wirfoddolwr gwrando a gallwch eu cefnogi mewn llawer o ffyrdd eraill gan gynnwys marchnata, codi arian, allgymorth neu amrywiaeth o rolau gweinyddol.  

Gallwch wneud gwahaniaeth syfrdanol gyda’r Samariaid trwy helpu i gynorthwyo pobl pan fo arnynt angen rhywun i siarad ag ef neu pan fônt yn mynd trwy gyfnod anodd yn eu bywydau. Mae’r Samariaid yn croesawu ac yn gwerthfawrogi pob gwirfoddolwr, o bob cefndir.  

I gael gwybod mwy am wirfoddoli yn un o ddeg lleoliad y Samariaid ar draws Cymru, ewch i www.samaritans.org/volunteer


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle