Pâr codi arian yn herio y Tri Chopa Cenedlaethol

0
181
Yn y llun uchod: Jason Richards, perchennog Garej Ystwyth a Sophia Evans, cyfarwyddwr MP Evans Plumbing LTD

Mae Jason Richards a Sophia Evans yn cymryd rhan yn Her y Tri Chopa Cenedlaethol i godi arian i Ward Meurig yn Ysbyty Bronglais.

 Mae Ward Meurig yn arbenigo mewn gofalu am gleifion canser ac yn darparu gwasanaeth amhrisiadwy i’r gymuned leol.

 Bydd y pâr yn cwblhau’r heic 23 milltir, esgyniad 3064m, a thaith 462 milltir rhyngddynt, mewn dim ond 24 awr ar ddydd Gwener 11 Awst.

 Dywedodd Sophia: “Byddwn yn dringo mynyddoedd uchaf Cymru, Lloegr a’r Alban.

 “Er gwaethaf hyfforddi’n galed a theimlo’n bositif am yr her, nid yw’r naill na’r llall ohonom yn ddringwyr profiadol, felly heb os byddwn yn cael ein profi i’r eithaf. Rydym yn hyfforddi o gwmpas ymrwymiadau gwaith a theulu, sydd wedi golygu dechrau’n gynnar a nosweithiau hwyr i gyrraedd y milltiroedd cyn y digwyddiad.”

 Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

 I gael rhagor o fanylion am elusen y GIG a sut y gallwch helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.elusennauiechydhyweldda.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle