Gallai cymorth ychwanegol i bobl ar restrau aros y GIG helpu i arbed rhai o’r 6,000 o driniaethau sy’n cael eu canslo

0
195
Health Minister, Eluned Morgan, meets a call handler from the Hywel Dda Health Board Waiting List Support Service.

Mae’r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, wedi lansio polisi newydd i gefnogi pobl sy’n aros am driniaeth. Bydd hyn yn helpu i osgoi canslo rhai o’r 6,000 o driniaethau’r GIG sy’n cael eu canslo ar y funud olaf yng Nghymru.

Bydd y Polisi Aros yn Rhagweithiol neu’r Polisi 3A yn sicrhau bod cymorth a gwybodaeth ar gael yn hawdd i’r rhai sy’n aros am driniaeth.

Y 3A yw: Annog ymddygiadau iach, Atal datgyflyru wrth aros ac Amser paratoi ar gyfer triniaeth ac adferiad.

Bydd pobl sy’n aros am driniaeth yn cael un pwynt cyswllt unigol yn y bwrdd iechyd, a fydd yn gwrando ar eu pryderon, yn rhoi cyngor iddynt ar ymddygiad iach i reoli eu symptomau’n well, ac yn eu cyfeirio at amrywiaeth eang o adnoddau a gwasanaethau.

Byddant hefyd yn helpu pobl i baratoi ar gyfer eu triniaeth i sicrhau eu bod yn cael y canlyniadau gorau – bydd hyn yn cynnwys gwasanaethau fel dosbarthiadau ymarfer corff, yn bersonol neu o bell.

Mae rhai byrddau iechyd, fel Hywel Dda, eisoes yn darparu’r gwasanaethau hyn, ond bydd y polisi newydd gan Lywodraeth Cymru yn sicrhau bod y gwasanaethau hyn ar gael ledled Cymru erbyn dechrau’r haf nesaf.

Rhwng mis Ebrill 2022 a mis Mawrth 2023, cafodd 6,350 o driniaethau eu canslo ar y funud olaf.

Dyma’r rhesymau dros ohirio’r triniaethau:

  • 4,860 ohonynt am fod y cleifion yn dweud nad oeddent yn ffit i gael y driniaeth.
  • 300 am fod gan y cleifion gyflwr meddygol a oedd yn bodoli’n barod.
  • 1,130 am fod yr ysbyty’n dweud nad oedd modd i’r cleifion gael y driniaeth oherwydd bod ganddynt salwch acíwt.
  • 60 am eu bod yn anaddas ar gyfer triniaeth yr un diwrnod.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan:

“Rydyn ni’n gwybod bod paratoi effeithiol yn hanfodol i bobl gael y canlyniadau gorau o’u triniaeth, a’i fod yn gallu helpu i osgoi canslo ar y funud olaf.

“Llynedd, yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru, cafodd mwy na 6,000 o driniaethau eu canslo ar y funud olaf, a llawer ohonynt oherwydd salwch. Mae canslo ar y funud olaf yn golygu gwastraffu adnoddau – mae’n golygu colli amser ymgynghorwyr a llawfeddygon pan allai’r slot hwnnw fod wedi cael ei gynnig i rywun arall.

“Bydd y Polisi 3A yn golygu y bydd pobl yn cael eu grymuso i gymryd cyfrifoldeb am eu hiechyd a’u lles eu hunain, ac y bydd gwybodaeth a chymorth ar gael drwy amrywiaeth o adnoddau a fformatau i alluogi pobl i fyw’n fwy iach. 

“Bydd hefyd yn helpu pobl i reoli eu cyflwr yn well wrth aros, gan roi cyngor ar reoli poen a beth i’w wneud os bydd eu symptomau’n gwaethygu.

“Bydd cymorth ar gael hefyd ar y ffordd orau o baratoi ar gyfer triniaeth ac adferiad. Bydd hyn yn atal achosion o ganslo ar y funud olaf ac yn sicrhau bod pobl yn cael y canlyniadau gorau o’u triniaeth. Drwy gadw mewn cysylltiad rheolaidd â’r bobl sy’n aros am adnoddau, gall byrddau iechyd hefyd gynllunio’n well ar gyfer gohirio os oes angen.”

Yn gynharach yr wythnos hon ymwelodd y Gweinidog â’r Gwasanaeth Cymorth Rhestrau Aros a’r gwasanaeth Adsefydlu Orthopedig Rhithwir ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, a sefydlwyd yn 2021 mewn ymateb i’r pandemig COVID.

Dywedodd Mandy Rayani, Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad Cleifion Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda:

“Mae’r Gwasanaeth Cymorth Rhestrau Aros yn cynnig gwasanaeth gwerthfawr i gleifion yn ardal Hywel Dda sy’n aros am driniaeth. Mae ein staff ar gael i gefnogi a chynghori unigolion ar faterion amrywiol – o ffitrwydd corfforol i les cyffredinol – ac yn gweithio gyda nhw i sicrhau eu bod mor ffit â phosibl ac yn barod ar gyfer eu triniaeth pan ddaw’r amser.

Nod y gwasanaeth yw sicrhau bod cleifion yn ffit ac yn barod, a’u bod yn cael cymorth wrth aros, i’n helpu ni i leihau nifer y triniaethau sy’n gorfod cael eu canslo a’u haildrefnu oherwydd bod cyflyrau iechyd cleifion yn gwaethygu.”

Ychwanegodd Eluned Morgan:

“Mae’r gwasanaeth yn Hywel Dda yn fodel arferion gorau fydd yn cael ei gyflwyno ar draws pob bwrdd iechyd arall yn ystod y 12 mis nesaf. Yn sgil hyn bydd cleifion yn elwa a bydd gwasanaethau’n gwella ledled Cymru.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle