Agrisgôp yn helpu ffermwyr defaid sy’n ceisio datblygu geneteg diadell

0
237
John Davies, Agrisgôp group member with his Polled Wiltshire cross lambs.

Mae geneteg newydd i helpu i symud datblygiad defaid nad oes angen eu cneifio ymlaen yng Nghymru wedi’i chyflwyno i dair diadell yng Nghymru.

Daeth y ffermwyr, sydd i gyd yn rhedeg diadelloedd o ddefaid EasyCare, ynghyd gan fenter Agrisgôp Cyswllt Ffermio.

Roedd Huw Thomas, sy’n ffermio yn Fferm Pentre, Aberarth, ac wedi dewis defaid EasyCare oherwydd rhinweddau wyna hawdd a chost isel y brîd, yn awyddus i archwilio sut y gallai geneteg o hemisffer y de helpu i ddatblygu ei raglen fridio ymhellach.

Huw Thomas, aelod o’r grŵp Agrisgôp.

Cysylltodd ag arweinydd Agrisgôp, Jessica Williams, a ffurfiodd grŵp Agrisgôp gyda dau fusnes ffermio defaid arall oedd yn rhannu dyheadau Huw – John a Hedd Davies, sydd gan 800 o ddefaid Easycare yng Nghefn Coch, Llanilar, a Dafydd Evans, o Dolau Brics, Llanwrin.

Wedi’i gynllunio i wneud cysylltiadau a meithrin rhwydweithiau, galluogodd Agrisgôp y grŵp i ehangu eu gwybodaeth ar lefel ryngwladol wrth i Jessica drefnu cyfres o gyfarfodydd ar gyfer y grŵp, gan gynnwys galwadau Zoom yn gynnar yn y bore i Awstralia. Fe wnaethant hefyd gysylltu ag Ian McDougall, bridiwr defaid yn Swydd Amwythig, sy’n ymwneud â throsglwyddo embryonau a rhaglenni Ffrwythloni Artiffisial (AI) yn fyd-eang, ac eraill gan gynnwys Haydn Wooley, sy’n ychwanegu geneteg hemisffer y de at ei ddiadell ei hun yn Swydd Amwythig.

Roedd gan y ffermwyr ddiddordeb i ddechrau mewn defnyddio’r Australian White ar gyfer bridio ond yn y pen draw bu iddynt ddewis y Polled Wiltshire o Seland Newydd.

“Dywedodd Ian wrthym y byddai’r Polled Wiltshire yn bodloni popeth ar ein rhestr a’u bod yn addas iawn ar gyfer hinsawdd Cymru,” meddai Huw.

Buddsoddodd Ian mewn pedwar hwrdd a bu iddo fewnforio’r rhain o Seland Newydd ym mis Tachwedd 2022.

Cymerwyd semen o’r rhain a bu’r grŵp Agrisgôp yn ffrwythloni mamogiaid â’r semen; mae eu holl ddefaid EasyCare yn cludo’r genyn myostatin.

Dywedodd Huw, oedd â chyfradd llwyddiant o 60% ar yr 20 o famogiaid y bu iddo eu ffrwythloni a chyflawnwyd canran sganio o 145%, fod y croesiadau cyntaf a aned yn nhymor wyna 2023 yn hynod fywiog ar adeg eu geni.

“Rwyf bob amser wedi meddwl bod gan ddefaid EasyCare ragaeddfedrwydd ychwanegol ond nid wyf erioed wedi gweld ŵyn yn symud mor gyflym â’r croesiadau cyntaf hynny,” meddai. “Mae eu cotiau tynn iawn, sy’n ddelfrydol i’w hamddiffyn rhag y lefel uchel o law a gawn yng Ngheredigion, yn bleser i’w weld.”

Roedd 70% o’r 30 o famogiaid a gafodd eu ffrwythloni wedi sefyll a chyflawnwyd cyfradd sganio o 150% i John a Hedd.

Oen croes Polled Wiltshire gyda dafad Easycare.

Roedd yr ŵyn, a aned ddechrau mis Mai, yn cynnwys popeth yr oeddent wedi gobeithio amdano – a mwy.

“Roeddent wedi codi eu pennau a’n chwilio am y deth cyn gynted ag y cawsant eu geni, mae ganddynt fwy o egni ac maent yn tyfu’n gyflymach na gweddill ein hŵyn,” meddai John.

O ganlyniad, mae’r teulu Davies yn gobeithio prynu dau hwrdd Polled Wiltshire ei hunain o Seland Newydd.

Mae cymorth Agrisgôp wedi bod yn amhrisiadwy, meddai John. “Rydym wedi dod i adnabod pobl sydd â nodau tebyg i’n rhai ni ac wedi ehangu ein gwybodaeth.”

Mae’r rhaglen datblygu rheolaeth sydd wedi’i hariannu’n llawn yn annog ffermwyr a thyfwyr cymwys i ddod at ei gilydd nid yn unig i ddatblygu eu busnesau, ond i ennill hyder a sgiliau’n bersonol trwy ddysgu gweithredol.

Gyda chymorthdaliadau uniongyrchol yn dod i ben yn 2024 a newidiadau sylweddol i gymorth amaethyddol o’n blaenau, mae Huw yn awgrymu bod yn rhaid i ffermwyr defaid “feddwl yn agored” trwy addasu eu systemau.

Mae’n cyfaddef, “ni fyddem wedi gallu cyflawni’r hyn sydd gennym heb y cysylltiadau a gawsom drwy Agrisgôp.”

Bydd defnyddio Polled Wiltshires a fewnforiwyd yn ychwanegu at y gronfa genynnau bresennol, meddai Huw, ac o bosibl yn caniatáu i radd ychwanegol o fywiogrwydd hybrid gael ei gyflwyno.

“Rwy’n darogan ymhen ychydig flynyddoedd na fydd defaid nad oes angen eu cneifio’n cael eu hadnabod wrth yr enwau gwahanol y maent heddiw, yn syml byddant yn cael eu hadnabod fel y rhai nad oes angen eu cneifio.

“Ni fydd angen cneifio canran enfawr o ddefaid Cymru yn y 10 i 15 mlynedd nesaf.”

Mae Cyswllt Ffermio yn bwriadu cefnogi 28 o grwpiau Agrisgôp pellach dros y ddwy flynedd nesaf ac maent yn awyddus i glywed gan grwpiau o ffermwyr sydd â syniad busnes arloesol y maent yn dymuno ei archwilio.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle