Rhoddion elusennol yn ariannu sbiromedr ar gyfer Ysbyty Glangwili

0
227
Pictured above from left to right: Zara Dunleavy, Respiratory Nurse; Marian Davies, Respiratory Clinical Nurse Specialist and Debra Hughes, Respiratory Nurse.

Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi gallu ariannu sbiromedr ar gyfer Ysbyty Glangwili diolch i roddion hael.

Defnyddir sbiromedr i ganfod a monitro cyflyrau’r ysgyfaint fel syndrom Guillain-Barré, anhwylder awto-imiwn sy’n effeithio ar y nerfau.

 Mae sbiromedr yn asesu pa mor dda mae eich ysgyfaint yn gweithio trwy fesur faint o aer rydych chi’n ei anadlu, faint rydych chi’n anadlu allan, a pha mor gyflym rydych chi’n anadlu allan.

 Dywedodd Marian Davies, Nyrs Glinigol Anadlol Arbenigol: “Rydym yn hynod ddiolchgar am y rhoddion sydd wedi galluogi’r sbiromedr i gael ei brynu ar gyfer Ysbyty Glangwili.

 “Bydd yr offer newydd yn ein galluogi i ganfod gwendid diaffram claf a nodi’r angen am gynnydd posibl mewn gofal. Mae hefyd yn ein galluogi i gynnal sbirometreg yn y clinig, sy’n ein galluogi i deilwra triniaeth ac yn lleihau’r llwyth gwaith ar gyfer yr adran cardio-anadlol.”

 Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

 Mae eich rhoddion yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd, lles a phrofiad cleifion, defnyddwyr gwasanaeth a staff y GIG. I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.elusennauiechydhyweldda.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle