Bydd David TC Davies, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn cyfarfod deiliaid Gwobrau Dug Caeredin i glywed am y gwahaniaeth a wneir gan bobl ifanc trwy gymryd rhan yng ngweithgareddau DofE.

0
273
Secretary of State for Wales David TC Davies meets DofE Cymru Youth Ambassadors

·       Ymwelodd y Gweinidog â Phencadlys DofE Cymru yn Aberhonddu er mwyn dysgu am effaith yr elusen.

·       Bu dros 15,700 o bobl ifanc yng Nghymru yn cymryd rhan mewn gweithgareddau DofE yn 2022/23 – gyda mwy nag un rhan o bump o bobl ifanc 14 mlwydd oed yn cychwyn eu Gwobr Efydd DofE.

Cyfarfu pedwar o Lysgenhadon Ifanc DofE Cymru ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru i ddweud wrtho am yr effaith a gafodd eu Gwobr Dug Caeredin (DofE) arnynt – a’r gwahaniaeth a wna pobl ifanc ac oedolion sy’n gwirfoddoli yn eu cymunedau.

Cyfarfu David TC Davies, sy’n AS Mynwy, â deiliaid ifanc y Gwobrau, Chris, Megan, Ffion ac Caitlin, ym mhrif swyddfa DofE Cymru yn Aberhonddu. Rhannodd y bobl ifanc eu straeon DofE, cyn ateb cwestiynau gan y Gweinidog. 

Dechreuodd Christopher, 19 mlwydd oed o Aberhonddu, ei Wobr Aur y llynedd, ar ôl methu â gwneud ei Wobr Arian DofE oherwydd y pandemig coronafeirws. Cafodd Chris ei ddenu at y DofE oherwydd ei fod yn frwd dros archwilio cefn gwlad Cymru – boed hynny drwy wersylla, cerdded neu gaiacio.

Heriwyd Chris yn ystod adran alldaith y Wobr Aur a’i gynorthwyo i fagu gwytnwch corfforol a meddyliol. Ond, dywedodd Chris mai adrannau eraill o weithgareddau DofE a gafodd yr effaith fwyaf arno: “fe wnaeth gwirfoddoli ddyfnhau fy nghysylltiad â’r gymuned, gan fod fy nheulu newydd symud i dref newydd ar ddechrau’r pandemig. Diolch i’m gweithgareddau gwirfoddoli, rwyf bellach yn hyfforddwr caiacio ac yn gynorthwyydd adran gyda’m grŵp Sgowtiaid lleol – fydd o gymorth mawr i mi yn y blynyddoedd sydd i ddod.”


Secretary of State for Wales David TC Davies meets DofE Cymru Youth Ambassadors

“Bu’r cyfnodau clo yn hynod o galed i bobl ifanc, gan iddynt ein rhwystro rhag cymdeithasu yn y modd arferol, a chymryd rhan mewn gweithgareddau a phrofiadau fyddai’n dysgu gwersi bywyd gwerthfawr i ni. Dyna pam y credaf fod gwobr DofE mor bwysig i bobl ifanc – yn eu galluogi i ennill annibyniaeth a’u gosod ar y llwybr i fedru cyflawni eu nodau a’u dyheadau.”

Dywedodd David TC Davies, Ysgrifennydd Gwladol Cymru: “Mae Gwobrau Dug Caeredin wedi cynorthwyo unigolion dirifedi i ddarganfod eu cryfderau a chael effaith gadarnhaol ar gymdeithas ac mae’n wych cael clywed yn bersonol am y gwahaniaeth a wnant i bobl ifanc.

“Roedd yn fraint cael cyflwyno tystysgrifau am wasanaeth hir i rai o arweinwyr gwych y sefydliad hwn sydd wedi cyflawni gwaith mor arbennig wrth gefnogi pobl ifanc i sylweddoli eu llawn botensial”.

Rhannodd Matthew Hills, Arweinydd DofE yn Ysgol Gymunedol Aberdâr, ei safbwyntiau ar fanteision cymryd rhan i’r bobl ifanc y mae’n eu cefnogi.

Dywedodd Matthew: “Mae Gwobr Dug Caeredin wedi galluogi ein pobl ifanc i ddatblygu nifer o sgiliau trosglwyddadwy yn ogystal ag ennyn hyder a gwytnwch drwy gyfrwng yr adrannau Gwirfoddoli, Corfforol, Sgiliau a’r Alldaith. Wrth i ysgolion wynebu anawsterau ariannol, mae DofE Cymru wedi bod yn gefnogol iawn yn yr ystod o gyllid a ddarparwyd ganddynt i alluogi ein dysgwyr i elwa o’r gwobrau. Mae’r cyllid hwn wedi cyfrannu at hyfforddiant staff, offer ar gyfer alldeithiau ac wedi darparu llefydd ar gyfer ein dysgwyr difreintiedig. Mae’r cynnydd blynyddol yn nifer y cyfranogwyr yn tanlinellu’r effaith gadarnhaol a gaiff gweithgareddau DofE ar ein dysgwyr ifanc.”

 

Clywodd yr Ysgrifennydd Gwladol hefyd gan Steph Price, Cyfarwyddwr DofE Cymru, am effaith y DofE yng Nghymru, a chynlluniau uchelgeisiol yr elusen i gyrraedd mwy o bobl ifanc sydd ar yr ymylon.

Dechreuodd mwy na 11,000 o bobl ifanc ar weithgarwch Gwobr Dug Caeredin yng Nghymru rhwng Ebrill 2022 a Mawrth 2023, gyda 15,798 yn cymryd rhan weithredol yn ystod y flwyddyn. Dechreuodd mwy nag un rhan o bump (22 y cant) o bobl ifanc 14 mlwydd oed eu gweithgarwch ar gyfer Gwobr Efydd DofE, a chyflawnwyd dros 90,000 o oriau gan gyfranogwyr yn gwirfoddoli yn eu cymunedau fel rhan o’u rhaglenni.

Dywedodd Steph Price, Cyfarwyddwr DofE Cymru: “Rydym yn hynod falch o fod wedi croesawu’r Ysgrifennydd Gwladol i glywed yn uniongyrchol gan bobl ifanc am yr effaith gadarnhaol a gafodd cyflawni gweithgareddau DofE ar eu bywydau, y gwahaniaeth a wneir bob dydd ganddynt hwy a’r oedolion sydd gennym yn gwirfoddoli, ac am ein huchelgeisiau i sicrhau fod pob person ifanc yn cael cyfle i newid eu bywydau trwy raglen DofE.

“Mae pobl ifanc yn wynebu cyfnod heriol ac ansicr – mae’n bwysicach nag erioed eu bod i gyd yn cael mynediad tuag at gyfleoedd cyson i gael hwyl, i fagu gwytnwch ac i gredu ynddynt eu hunain, a datblygu sgiliau ymarferol hanfodol na ellir eu cael bob amser yn y dosbarth.”

Wrth ymestyn allan i fwy o ysgolion mewn ardaloedd difreintiedig, sefydliadau yn y gymuned, canolfannau sy’n cefnogi pobl ifanc ag anghenion ychwanegol, ac i garchardai a sefydliadau troseddwyr ifanc, mae’r DofE yn gweithio i sicrhau fod pob person ifanc yn cael y cyfle i gymryd rhan.

Cyflwynodd Mr Davies dystysgrifau hefyd i dri oedolyn sy’n gwirfoddoli gyda DofE ag sydd wedi rhoi dros 107 o flynyddoedd i gefnogi pobl ifanc i gyflawni eu Gwobrau.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle