Elusen y GIG yn ariannu cadeiriau arbenigol gwerth dros £5,000 ar gyfer cleifion strôc

0
234
Yn y llun uchod: Staff o Ward Gwenllian yn Ysbyty Glangwili

Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi gallu ariannu dwy gadair arbenigol gwerth dros £5,000 i gleifion ar Ward Gwenllian yn Ysbyty Glangwili, diolch i roddion hael.

Mae’r cadeiriau gogwyddo yn cynnig cynhaliad osgo i gleifion na allant gadw osgo unionsyth am gyfnod hir o amser.

Dywedodd Claire Richards, Ffisiotherapydd Arweiniol Clinigol: “Rydym yn hynod ddiolchgar am y rhoddion sydd wedi galluogi’r cadeiriau hyn i gael eu prynu ar gyfer Ward Gwenllian.

“Mae’r cadeiriau o fudd mawr i gleifion ar y ward gan eu bod yn helpu i reoli eu hosgo, tôn a safle. Byddant yn grymuso’r claf i godi o’r gwely er gwaethaf difrifoldeb ei strôc ac yn cefnogi ei adferiad corfforol a seicolegol.”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

Mae eich rhoddion yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd, lles a phrofiad cleifion, defnyddwyr gwasanaeth a staff y GIG. I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.elusennauiechydhyweldda.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle