Mae’r canwr opera a’r darlledwr, Wynne Evans, wedi’i enwi fel llysgennad Corau Cysur Opera Cenedlaethol Cymru.
Mae rhaglen Cysur y Cwmni yn cynnig grwpiau canu cymunedol ar gyfer pobl sy’n byw â dementia, ac yn cynnig lle i deuluoedd a gofalwyr ddod ynghyd i fwynhau buddion cyffredin cerddoriaeth a chân yn wythnosol.
Nod y prosiect yw manteisio ar sgiliau cerddorion a chantorion proffesiynol WNO i greu amgylchedd a all helpu pobl sy’n byw â dementia i gadw cysylltiad â’u hamgylchedd, a chadw diddordeb ynddo, wrth hefyd sicrhau bod eu gofalwyr a’u hanwyliaid yn cael seibiant o’r heriau dyddiol sy’n gysylltiedig â’r cyflwr.
Cyhoeddodd WNO y rhaglen Cysur gyda chôr cymunedol yng Ngwanwyn 2019. Cynhaliwyd y peilot yn Abertawe, ac ers hynny, mae wedi ehangu i Aberdaugleddau a Llandeilo, Sir Gâr. O ddydd Mawrth 19 Medi, bydd trydydd Côr Cysur yn cael ei gyhoeddi yn Llanelli, gyda help enillydd diweddar Celebrity MasterChef, Wynne Evans.
Bydd Wynne yn chwarae rhan hanfodol wrth godi ymwybyddiaeth am y gwasanaeth cymorth dementia hanfodol hwn ac fel rhan o’i rôl bydd yn eiriolwr dros waith Cysur yng nghymunedau Cymru.
Dywedodd Wynne:
“Rwy’n falch iawn o fod ynghlwm â’r prosiect hwn. Rwyf wedi bod yn frwd dros ganu cymunedol erioed, a thrwy gydol fy ngyrfa, rwyf wedi gweld yn uniongyrchol y buddion cerddoriaeth a chanu i iechyd meddwl a chorfforol pobl. Mae Cysur yn cynnig gwasanaeth rhagorol i bobl sy’n byw â dementia, yn ogystal â’u teuluoedd a’u gofalwyr, felly rwyf wir ar ben fy nigon o fod yn llysgennad ar gyfer y gwaith hwn.”
Bydd yr Arweinydd Lleisiol, David Fortey, a’r pianydd, Mark Jones, yn arwain y sesiynau yn Theatr Ffwrnes, Llanelli, dros gyfnod o wyth wythnos. Yn ystod y sesiynau un awr hyn, bydd aelodau’n canu amrywiaeth eang o gerddoriaeth, o ganeuon poblogaidd i ganeuon gwerin, ac o emynau i ariâu. Mae pob sesiwn yn dechrau gyda gweithgareddau cynhesu rhyngweithiol sy’n tanio’r meddwl a’r llais. Ar ôl hynny, bydd cyfleoedd i aelodau ddod i adnabod ei gilydd dros baned o de neu goffi a bisgedi.
Dywedodd Jennifer Hill, Cynhyrchydd WNO:
‘Rydym yn hynod falch o allu arbrofi â Chôr Cysur newydd yn Llanelli. Mae aelodau ein corau presennol yn Aberdaugleddau a Llandeilo yn dweud wrthym eu bod yn gwerthfawrogi’r gwmnïaeth a’r hwyl a geir o gyd-ganu yn wythnosol yn aruthrol, ac felly mae gallu ehangu’r cynllun i ardal arall, sy’n fwy dinesig ei natur, yn hynod o gyffrous. Rydym wedi bod yn ffodus iawn o gael cefnogaeth ar lawr gwlad gan bobl a sefydliadau anhygoel sy’n rhan annatod o’u cymunedau, ac rydym yn gobeithio gallu ychwanegu at eu gwaith gwych.’
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth ynghylch Corau Cysur, neu os hoffech chi fynychu’r sesiynau sydd ar y gweill yn Llanelli, cysylltwch â Jenn Hill drwy Jennifer.hill@wno.org.uk
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle