Y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant Lynne Neagle ac AS Gogledd Caerdydd Julie Morgan yn agor Cronfeydd DŵrLlys-faen a Llanisien gyda’r Reservoir Action Group

0
201
L&LL Opening 7 Sept 2023. LN, HT, JM, AL, PP, AH, RC

Ymunodd Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant Llywodraeth Cymru Lynne Neagle ac AS Gogledd Caerdydd Julie Morgan â Chadeirydd Glas Cymru Alastair Lyons a Phrif Weithredwr Dŵr Cymru Peter Perry yng Ngogledd Caerdydd ddydd Iau diwethaf (7 Medi 2023) i agor Cronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien yn swyddogol.

L&LL Opening 7 Sept 2023. Reservoir Action Group

Bu Cadeirydd cyfredol a chyn Gadeirydd y Reservoir Action Group (RAG) – Richard Cowie ac Andrew Hill – yn westeion arbennig yn yr achlysur, ac roedd teulu’r Cadeirydd gwreiddiol, Ted Thurgood, a sawl aelod o’r grŵp fu’n brwydro am bron i ddau ddegawd i achub y safle rhag troi’n ystâd o dai yn bresennol hefyd.

Agorodd atyniad ymwelwyr diweddaraf Dŵr Cymru i’r cyhoedd fel hyb ar gyfer iechyd a lles a hafan bywyd gwyllt ar ddechrau tymor gwyliau’r haf. Adeiladwyd Cronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien ddiwedd y 19eg ganrif ac mae’r tirnod arbennig yma o Oes Fictoria – sy’n cwmpasu 110 erw o dir gwyrdd a glas ac sy’n gartref i fflora a ffawna bendigedig – yn cynnig hafan o lonyddwch yn y brifddinas.


L&LL Opening 7 Sept 2023. L-R LN, HT, JM, AL, PP, AH, RC

Daeth Cronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien dan fygythiad yn 2001, a ffurfiodd aelodau o’r gymuned y Reservoir Action Group (RAG) gan ymgyrchu’n llwyddiannus i achub y cronfeydd rhag cael eu dymchwel i wneud lle ar gyfer datblygiad tai. Bu farw Cadeirydd gwreiddiol RAG, Ted Thurgood yn 2019. Enwyd ystafell yn y gronfa i’w anrhydeddu ac roedd merch Ted, Diana Pierce, a’i gŵr John, yn bresennol ar y diwrnod.

Wrth roi teyrnged i Ted Thurgood ar y diwrnod, dywedodd Andrew Hill: “Pan glywodd Ted fod Cronfa Ddŵr Llanisien dan fygythiad, aeth ati – gan ddefnyddio’i sgiliau trefnu a denu cyhoeddusrwydd – i sefydlu pwyllgor o bobl leol oedd eisiau helpu, a dyna sut y dechreuodd  RAG. Bu Ted yn gadeirydd llwyddiannus i RAG, gan ddenu dros 2000 o aelodau ac aeth ati i godi arian at ein brwydr ‘David a Goliath’ gyda Western Power Distribution, a barodd am bron i ddau ddegawd. Bu Ewart Parkinson, cyn Gyfarwyddwr Cynllunio Caerdydd a De Morgannwg, yn gefnogwr selog ac o gymorth aruthrol cadarn i RAG hefyd. Mae hi’n drist iawn nad yw Ted ac Ewart yma heddiw i weld y gamp fendigedig yma.

L&LL Opening 7 Sept 2023. L-R Julie Morgan, Andrew Hill, Lynne Neagle, Peter Perry

“Yn ogystal â bod yn amwynder bendigedig sy’n agored i’r cyhoedd, mae’n rhan o’r cynllun rhyfeddol i gyflenwi dŵr o Aberhonddu i Gaerdydd a ddyluniwyd gan y peiriannydd dŵr John Williams. Dynodwyd strwythurau’r ddwy gronfa uchaf yn strwythurau o bwys hanesyddol rhyngwladol, ac fe’u rhestrwyd gan Lywodraeth Cymru. RAG fu’n gyfrifol am gynhyrchu’r gwaith ymchwil a arweiniodd at ychwanegu Llanisien at y rhestr honno yn 2010. Amddiffynnodd hyn y gronfa a’i hamgylchoedd rhag cael eu difa neu eu dymchwel.

“Cymerodd Richard Cowie’r awenau fel cadeirydd RAG yn 2013 ac ynghyd â’i bwyllgor hynod abl a gweithgar, mae e wedi bod wrthi dros y deng mlynedd diwethaf yn gweithio i adfywio’r cyfleuster hwn er mwyn y ddinas gyfan. Mae hi’n wych y bu gan Ddŵr Cymru’r weledigaeth a’r craffter i gyflawni adfywiad Llanisien, ac mae hi’n hyfryd gweld yr adeilad a’r cyfleusterau newydd ysblennydd yma heddiw.”

L&LL Opening 7 Sept 2023. L-R Andrew Hill, Julie Morgan, Richard Cowie

Wrth siarad yn yr achlysur, diolchodd Cadeirydd Glas Cymru Alastair Lyons i bartneriaid, cyllidwyr, staff, a chontractwyr a oedd wedi gwneud agor y safle yn bosibl.

Dywedodd Alistair Lyons: “Wrth edrych o gwmpas y safle prydferth yma, mae hi’n anodd credu iddo ddod yn agos at gael ei ddifetha. Rydydyn ni’n ddiolchgar dros ben i’r llu o bobl yn y gymuned leol a gydweithiodd mor ddiwyd i ffurfio RAG, ac a ymgyrchodd yn ddiflino i’w achub.

L&LL Opening 7 Sept 2023. L-R Andrew Hill, Julie Morgan, Richard Cowie

 “Ers cymryd awenau’r safle yn 2016, rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda nhw a gyda phartneriaid allweddol eraill i amddiffyn y safle hwn sydd mor bwysig i ecoleg er mwyn i genedlaethau’r dyfodol fwynhau’r manteision i’w hiechyd a’u lles.

“Bu modd ariannu’r gwaith diolch i’n statws fel cwmni nid-er-rhanddeiliaid am fod hyn yn caniatáu i ni ddefnyddio’r cronfeydd a fyddai’n cael eu talu allan ar ffurf buddrannau mewn cwmni eraill, a’u buddsoddi nôl yn y busnes er budd ein cwsmeriaid a’r cymunedau a wasanaethwn.”

Cynorthwywyd ailddatblygiad Cronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien diolch i werth £932k o gyllid o gynllun ‘Galluogi Adnoddau Naturiol a Lles’ (ENRaW) Llywodraeth Cymru i helpu i ariannu’r llwybrau a’r seilwaith gwyrdd. Diolch i grant Coetiroedd Cymunedol gwerth £202k gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Dreftadaeth y Loteri, mae’r coetiroedd bellach dan reolaeth weithredol ac wedi cael eu gwella ar gyfer pobl a bywyd gwyllt.

L&LL Opening 7 Sept 2023. L-R Andrew Hill, Julie Morgan, Richard Cowie

Dywedodd Lynne Neagle, Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: “Rydw i wrth fy modd i gael agor cronfa ddŵr Llys-faen a Llanisien. Bu mawr gyffro a hir aros am hyn, a bydd yn ased i’r gymuned ac i’r bobl sy’n ymweld â’r ardal.

“Mewn blynyddoedd diweddar, mae Cymru wedi gweld twf sylweddol mewn gweithgareddau awyr agored a dŵr. Mae cael cyrchu mannau gwyrdd ac amgylcheddau dŵr yn ein dinasoedd yn bwysig i’n hiechyd corfforol a meddwl ac i’n lles. Fel llywodraeth, rydyn ni’n gefnogol dros ben o weithgareddau dŵr ac yn annog pawb i fwynhau’r dŵr yn ddiogel.

L&LL 7 Sept 2023. Fergus Feeney (CEO Swim Wales) & Jack Bailey (L&LL Activities Manager)

“Mae yna gynifer o gyfleoedd i bobl archwilio’r awyr agored a byddwn yn annog pawb i gymryd ychydig o amser i werthfawrogi a mwynhau’r fioamrywiaeth sydd yma yn ein prifddinas.”

Ychwanegodd Julie Morgan, yr Aelod o’r Senedd sy’n cynrychioli Gogledd Caerdydd: “Rydw i mor falch o agor Cronfeydd Dŵr Llanisien a Llys-faen, safle cymunedol bendigedig. Rydw i mor ddiolchgar am waith caled ac ymroddiad y Grŵp Gweithredu dros y Gronfa a phawb sydd wedi bod wrthi dros y 22 mlynedd diwethaf.

“Yn ogystal â bod yn lle hardd i’r gymuned leol ei fwynhau, mae hi’n safle ecolegol pwysig hefyd, yn gartref i’r Ffwng Cap Cwyr amhrisiadwy ac i lwyth o fioamrywiaeth arall. Mae’r chwaraeon a’r gweithgareddau dŵr yn cynnig cyfleoedd bendigedig i ymgysylltu â’r safle, a byddwn i’n annog pobl i fanteisio i’r eithaf arnynt.”

Am fanylion pellach, ewch i www.lisvane-llanishen.com


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle