Shot o Opera i’r rhai sy’n caru Shakespeare gyda Beatrice a Benedict Berlioz yn dod i’r llwyfan ar Daith LlwyfannauLlai ddiweddaraf Opera Canolbarth Cymru.

0
208

Paratowch i gael eich swyno wrth i gyfaredd oesol Much Ado About Nothing William Shakespeare ddod yn fyw ar y llwyfan operatig ar ffurf opera gomig hyfryd, Beatrice & Benedict – stori am ffraethineb, rhamant, a chymhlethdodau cariad. Fe’i perfformir yn Saesneg mewn dwy act gyfareddol gan Opera Canolbarth Cymru. 

Mae’n bleser gan Opera Canolbarth Cymru gyhoeddi bod y tocynnau bellach ar werth ar gyfer eu cynhyrchiad o Beatrice & Benedict Berlioz ym mhob un o leoliadau taith LlwyfannauLlai; y cyfuniad perffaith o berfformiad byw a cherddoriaeth i’r rhai sy’n mwynhau Shakespeare, yn ogystal a’r rhai sy’n mwynhau opera.

Crëwyd y daith fel rhan o Folio400 sy’n anelu i drefnu, annog a hyrwyddo 400 mlwyddiant y Ffolio cyntaf, y rhifyn argraffedig cyntaf o gasgliad o ddramâu Shakespeare, yn 2023.

Crëwyd Beatrice a Benedict gan William Shakespeare ar gyfer ei ddrama gomedi “Much Ado About Nothing ,” ac maent yn adnabyddus am eu sgyrsiau ffraeth a brathog, sy’n ffurfio un o themâu canolog y ddrama.

Menyw annibynnol gyda meddwl chwim yw Beatrice. Mae hi’n adnabyddus am ei deallusrwydd a’i synnwyr digrifwch miniog. Mae gan Beatrice bersonoliaeth gref ac yn aml mae’n feirniadol o’r syniad o gariad a phriodas.

Milwr yng ngwasanaeth Don Pedro, Tywysog Aragon, yw Benedict ac fel Beatrice, mae’n adnabyddus am ei ffraethineb a’i ddeallusrwydd. Ar y dechrau, cadarnheir ei fod yn ddyn di-briod sy’n gwatwar y syniad o briodas ac yn cymryd rhan mewn ymryson geiriol llawen gyda Beatrice.

Er gwaethaf eu gwrthwynebiad cychwynnol i’r syniad o gariad a phriodas, maent yn cael eu twyllo gan eu ffrindiau i gredu bod y naill mewn cariad cyfrinachol â’r llall. Mae’r twyll hwn yn eu harwain i ailystyried eu teimladau ac i syrthio mewn cariad yn y pen draw.

Mae opera olaf Berlioz yn gosod ar gerddoriaeth y corwynt gwyllt ac afresymegol o syrthio mewn cariad, gan ddod â chynhesrwydd cyfoethog dyfeisgar i Shakespeare nad yw wedi ei gyflawni gan lawer o gyfansoddwr eraill. Mae cariad oes Berlioz at Shakespeare yn amlwg trwy gydol ei sgôr wyrthiol, yn pelydru gyda chariad, yn pefrio gydag egni, ac yn cynnwys y ddeuawd nocturne ganolog enwog, y peth harddaf a ysgrifennodd Berlioz erioed o bosib.

Mae rhagoriaeth greadigol Berlioz yn disgleirio gan mai nid cyfansoddi’r sgôr hudolus yn unig a wnaeth ond creu’r libreto Ffrengig hefyd. Wedi ei ysbrydoli gan is-blot perl gomig Shakespeare, cychwynnodd Berlioz ar y daith gerddorol, gan ddod ag ysbryd Beatrice a Benedict yn fyw. Un o’r gwahaniaethau sy’n gwneud y dehongliad hwn o ddrama Shakespeare yn unigryw yw mai dyma’r addasiad operatig arwyddocaol cynharaf o’r gomedi boblogaidd. Paratôdd y cyflawniad hwn y ffordd ar gyfer gweithiau dilynol gan gyfansoddwyr nodedig gan gynnwys Árpád Doppler, Paul Puget, Charles Villiers Stanford, a Reynaldo Hahn.

Dyma gyfle gwych i fwynhau cynhyrchiad Opera Canolbarth Cymru sy’n cynnwys chwech o gantorion a phedwar cerddor, gyda chyfieithiad Saesneg gan Amanda Holden, testunau gwreiddiol Shakespeare wedi’u haddasu gan Richard Studer a threfniant siambr newydd gan Jonathan Lyness.

Meddai’r Cyfarwyddwr Cerdd Jonathan Lyness, wrth sôn am greu sgôr newydd ar gyfer Beatrice & Benedict Berlioz, “Dechreuodd OCC feddwl am dymor Shakespeare ychydig flynyddoedd yn ôl. Roeddem yn awyddus i lwyfannu un o operâu gwych Verdi/Shakespeare fel cynhyrchiad gwanwyn PrifLwyfannau Opera Canolbarth Cymru. Roedd hyn yn ein gadael mewn penbleth ynghylch taith LlwyfannauLlai. Wrth feddwl am Verdi a’i gariad at Shakespeare, fe wnaeth imi feddwl am Berlioz a’i gariad yntau at Shakespeare. Dyma ddau gyfansoddwr Shakespearaidd mawr y bedwaredd ganrif ar bymtheg, os nad y mwyaf erioed. Yn rhyfeddol, yn union fel y trodd Verdi at ysgrifennu comedi Shakespearaidd ar ddiwedd ei fywyd, felly hefyd Berlioz. Ac yn union fel y cadarnhaodd Falstaff bod Verdi ym mlodau ei ddyddiau, roedd Beatrice and Benedict yn cadarnhau bod ysbrydoliaeth Berlioz ar ei anterth.”

Roedd y cyfansoddiad gwreiddiol yn cynnwys dwy delyn ar gyfer un rhan yn ogystal â’r cyfraniad cerddorfaol creadigol “verres frappés sur la table”, yr hyn y gellir ei ddisgrifio, yn anffurfiol, fel “gwydrau shots”. Er nad yw OCC yn addo gormodedd o delynorion, nid yw’r defnydd o wydrau shots wedi ei ddiystyrru. 

Soniodd y Cyfarwyddwr Artistig Richard Studer am ddatblygiad y cynhyrchiad wrth iddynt ddod â thaith ddiweddaraf LlwyfannauLlai Opera Canolbarth Cymru i gynulleidfaoedd. “Mae gweithio ar daith y Llwyfannau Bach yn ddifyr bob amser, o eistedd yn fy stiwdio yn creu set addasol fydd yn gweithio yn yr amrywiaeth eang o leoliadau cymunedol lle byddwn yn perfformio, cynnal ymarferion y cantorion o’r comedïau doniol i lwytho’r fan o’r diwedd a chychwyn ar y daith. Mae rhywbeth yn hudolus am berfformio i gynulleidfa yn eu lleoliad lleol, lle maen nhw’n eistedd yng nghanol ffrindiau gyda pheint ac ambell gi i fwynhau noson o gerddoriaeth fyw a chomedi wedi ei berfformio i’r safonau proffesiynol uchaf.”

Felly, paratowch i gael eich cludo i fyd o gomedi rhamantus wrth i Beatrice a Benedict gyrraedd y llwyfan; yn dyst i athrylith barhaus Berlioz a’i allu i roi bywyd newydd i stori oesol Shakespeare bydd Opera Canolbarth Cymru yn mynd â thaith LlwyfannauLlai dros Gymru a’r Gororau trwy gydol mis Hydref a mis Tachwedd eleni.

Bydd taith Beatrice & Benedict yn dechrau yn SpArC, Bishop’s Castle ddydd Gwener, Hydref 13, 2023. Bydd y daith wedyn yn ymweld â Gregynog ger y Drenewydd, Llanandras, Y Fenni. Aberdyfi, Yr Wyddgrug, Cricieth, Llanfair-ym-Muallt, Abergwaun, Aberdâr, Abermaw a Chaergybi, a daw i ben gyda’r perfformiad olaf yn Llwydlo, dydd Gwener, Tachwedd 10. 

Mae’r daith hon yn digwydd gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru, Y Loteri Genedlaethol, ac Ymddiriedolaeth Elusennol Colwinston ac Elusen Gwendoline a Margaret Davies.

I weld y manylion llawn, ewch i www.midwalesopera.co.uk  .


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle