Gyda llygaid y byd ar gystadleuaeth Cwpan Rygbi’r Byd, mae Trafnidiaeth Cymru yn falch o groesawu rhywfaint o’r gymuned Ffijïeg i Gaerdydd ddydd Iau hwn ar gyfer digwyddiad rygbi a recriwtio.
Mae Trafnidiaeth Cymru wrthi’n adeiladu Metro De Cymru ac mae wedi trefnu digwyddiad i rai o’r busnesau sy’n rhan o’i gadwyn gyflenwi ddod ynghyd i hyrwyddo eu swyddi gwag i Gymuned y Lluoedd Arfog.
Anogir unrhyw gyn-filwyr, y rheini sydd ar fin gadael y lluoedd arfog, milwyr wrth gefn, gwirfoddolwyr gyda’r cadetiaid neu bartneriaid, i fynd i’r digwyddiad os ydynt yn chwilio am waith neu i ddysgu mwy am y swyddi sydd ar gael.
Cynhelir y digwyddiad ym Mharc yr Arfau Caerdydd Ddydd Iau 21 Medi 2023 am 13.00.
Gyda bylchau sgiliau ar draws sawl sector, bydd 40 o fusnesau yn bresennol yn y digwyddiad recriwtio. Ar ôl y digwyddiad, bydd gêm rygbi rhwng Tîm Rygbi Byddin Fiji a Thîm Rygbi Gwasanaethau Brys Cymru.
Dywedodd Karl Gilmore, Cyfarwyddwr Seilwaith Rheilffyrdd TrC: “Yn TrC, rhoddwyd Gwobr Aur Cyfamod y Lluoedd Arfog i ni yn ddiweddar ac rydym yn cynnal y digwyddiad hwn fel y gall cyn-filwyr yn y rhanbarth hwn chwilio am swyddi neu ddod i wybod pa rolau sydd ar gael.
“Mae prosiectau seilwaith ar raddfa fawr yn digwydd ledled y diwydiant rheilffyrdd yng Nghymru ac mae llawer o gyfleoedd a bylchau sgiliau yn ein cadwyn gyflenwi. Rydym yn annog pawb sy’n rhan o Gymuned y Lluoedd Arfog i ddod i’r digwyddiad hwn gan y gallai fod gennych y sgiliau rydyn ni’n chwilio amdanynt.
“Fel rhan o’r digwyddiad, rydym hefyd yn falch o groesawu rhywfaint o’r gymuned Ffijïeg i Gymru gyda gêm rygbi yn ddiweddarach yn y prynhawn.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle