Adduned Gweinidog am gydraddoldeb i gyrsiau galwedigaethol yn plesio darparwyr hyfforddiant

0
183
Lisa Mytton, wrth ei bodd â'r adduned parch cydradd.

Mae ffederasiwn o ddarparwyr hyfforddiant wedi croesawu adduned Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, i sicrhau cydraddoldeb rhwng llwybrau dysgu galwedigaethol ac academaidd yng Nghymru.

Gwnaed yr adduned ar ôl cyhoeddi adroddiad annibynnol y bu disgwyl mawr amdano ar adolygiad o gymwysterau galwedigaethol yng Nghymru, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru.

Mae canfyddiadau’r adroddiad ac adduned y gweinidog wedi plesio Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW), corff y mae ei aelodau’n darparu prentisiaethau a rhaglenni eraill dysgu seiliedig ar waith ledled Cymru.  Buont yn ymgyrchu ers tro i sicrhau parch cydradd i addysg alwedigaethol.

“Rwy wedi ymrwymo i sicrhau bod cydraddoldeb rhwng llwybrau dysgu galwedigaethol ac academaidd yng Nghymru,” meddai Mr Miles. “Bydd gwella darpariaeth y cymwysterau galwedigaethol Gwneud-i-Gymru, a’r amrywiaeth sydd ar gael, yn hollbwysig er mwyn sicrhau ein bod yn diwallu anghenion economi Cymru i’r dyfodol, gan gynnig cyfleoedd ar yr un pryd i’n myfyrwyr feithrin y sgiliau a’r cymwysterau y mae arnynt eu hangen.”

Bydd yr adroddiad, sy’n gwneud 33 o argymhellion, yn helpu i benderfynu ar y camau nesaf wrth ystyried ehangu cymwysterau galwedigaethol Gwneud-i-Gymru, er mwyn diwallu anghenion dysgwyr ac economi Cymru i’r dyfodol.

Daw’r gefnogaeth i sicrhau cydraddoldeb i gymwysterau galwedigaethol ar adeg bwysig wrth sefydlu’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (CADY), y corff newydd a fydd yn goruchwylio’r holl addysg a hyfforddiant ôl-16 yng Nghymru o fis Ebrill nesaf ymlaen.

Mae’r adroddiad yn cydnabod yr hyn sydd eisoes yn dda am gymwysterau galwedigaethol a’r ffordd y cânt eu cyflwyno ond mae’n argymell newidiadau lle bo angen.

Mae’n cydnabod pwysigrwydd cefnogaeth gref gan gyflogwyr o ran datblygu a chyflwyno cymwysterau galwedigaethol. Mae hefyd yn argymell cynyddu nifer y cymwysterau galwedigaethol sydd ar gael trwy’r Gymraeg neu’n ddwyieithog.

Dywedodd cyfarwyddwr strategol yr NTFW, Lisa Mytton, a gyfrannodd at yr adolygiad: “Cymwysterau galwedigaethol yw curiad calon prentisiaethau. Maen nhw’n ein helpu i ddatblygu gweithlu deinamig a hyblyg, ond mae cyfle bob amser i wneud mwy, i fod yn fwy uchelgeisiol.

“Mae tirwedd cymwysterau Cymru’n newid, gan baratoi’r ffordd ar gyfer cyfleoedd newydd a dylai cymwysterau galwedigaethol a phrentisiaethau fod yn uchel eu parch.

“Mae’r NTFW yn falch iawn bod y Gweinidog Addysg yn cydnabod yn yr adroddiad bod angen parch cydradd a neges unedig, gyson ac uchel o blaid addysg alwedigaethol fel rhan ganolog o ddewis gyrfa, datblygiad cyflogwyr a thwf economaidd Cymru a rhywbeth sy’n cael yr un gwerthfawrogiad gan bawb.

Dros y blynyddoedd, bu newidiadau sylweddol yn narpariaeth, ansawdd a chyflawniad prentisiaethau, esboniodd. Mae cymwysterau galwedigaethol yn helpu i lenwi’r bwlch sgiliau ac ychwanegu gwerth at yr economi. 

“Mae llawer o lwybrau prentisiaethau ar gael ac mae’r cymwysterau eu hunain yn cynnwys gwerthoedd cymdeithasol, gan helpu’r dysgwyr nid yn unig i ddod yn unigolion medrus ond hefyd i ddeall cyd-destun ehangach cymunedau, llesiant a’r amgylchedd,” ychwanegodd Lisa.

“Mae cymwysterau galwedigaethol yn hybu dysgwyr i fod yn unigolion uchelgeisiol, penderfynol, annibynnol, gwydn a brwd, sy’n gallu ymateb i newidiadau ym myd gwaith a chymdeithas drwy gydol eu hoes, ac a fydd yn mynd ati i ddiwallu anghenion economi Cymru ac economïau byd-eang er mwyn iddynt dyfu.”

Dywedodd Sharron Lusher, MBE, cadeirydd grŵp llywio’r adolygiad, “Rwy wedi gweld y gwahaniaeth y mae addysg a hyfforddiant galwedigaethol wedi’i wneud i fywydau cymaint o bobl.

“Gobeithio y bydd yr adolygiad hwn yn hwb i dynnu sylw at gymwysterau galwedigaethol yng Nghymru ac yn annog pawb i ystyried addysg alwedigaethol wrth benderfynu am eu dyfodol. 

Mewn cyfarfod â Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, soniodd Lisa ac aelodau bwrdd NTFW am rôl darparwyr hyfforddiant annibynnol o dan CADY a’r angen i fynd i’r afael â’r ffaith bod sefydliadau dyfarnu yn y DU yn dileu  cymwysterau sy’n bwysig i Gymru.

Yn ogystal, trafodwyd y pwysau ar gyllideb Llywodraeth Cymru a manteisio i’r eithaf ar y contract prentisiaethau i dyfu’r economi.

Yn ddiweddar, hefyd, cyfarfu deiliaid contractau a gomisiynwyd â Jo Salway, cyfarwyddwr partneriaeth gymdeithasol, cyflogadwyedd a gwaith teg Llywodraeth Cymru, a’i chydweithwyr er mwyn helpu i benderfynu ar gyfeiriad strategol prentisiaethau o dan CADY.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle