Wedi’i harwain gan Andrea Roberts, darlithydd ac arweinydd y rhaglen, bydd y cwrs gradd sylfaen mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Brifysgol Cambria yn Wrecsam dros gyfnod o 2 flynedd. Mae’n rhoi llwybr hyblyg i ddysgwyr er mwyn iddynt ennill cymhwyster sydd wedi’i “ddylunio i fagu hyder” mewn amgylchedd cyfeillgar ac anffurfiol.
Gall myfyrwyr symud yn eu blaenau i ennill gradd lawn trwy gwblhau trydedd flwyddyn y cwrs ym Mhrifysgol Bangor.
Dywedodd Andrea bod galw mawr am ragor o weithwyr ym meysydd iechyd a gofal cymdeithasol gan ddweud: “Rydw i’n tybio bod nifer o bobl yn meddwl bod y cyfleoedd sydd ar gael yn gyfyngedig, ond bydd y sgiliau y byddent yn eu dysgu ar y cwrs yn rhai sy’n drosglwyddadwy ac mae llawer o yrfaoedd ar gael. Mae rhai nad ydy pobl yn ymwybodol ohonynt fel cynorthwyo pobl gyda phroblemau cyffuriau ac alcohol, gwasanaethau plant, iechyd meddwl a rhagor.
“Mae’r cwrs hwn wedi’i grynhoi i gael ei gyflwyno ddeuddydd yr wythnos er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn gallu parhau i weithio a bydd yn rhoi hwb i’r rhai sydd mewn cyflogaeth yn barod gan ehangu’r nifer o ddewisiadau sydd ar gael iddynt.
“Yn draddodiadol bydd nifer o bobl sy’n gweithio mewn gofal, ac yn enwedig gofal cymdeithasol, yn eithaf dibrofiad pan fyddent yn ennill swydd a dim ond cymwysterau academaidd sylfaenol fydd ganddynt. Yn aml dyna’r rheswm dros lefelau uchel o staff yn gadael.
“Bydd nifer fawr o opsiynau ar gael iddynt yn os cânt eu hannog. Mae yna nifer o sefydliadau a gwasanaethau yn y trydydd sector sy’n gysylltiedig â’r gwyddorau cymdeithasol yn ogystal ag iechyd a gofal cymdeithasol sydd angen ymgeiswyr o ansawdd uchel, yn enwedig yma yn y gogledd ddwyrain.
Nid oes rhaid i ymgeiswyr dilyn y broses UCAS er mwyn gwneud cais. Dywedodd Andrea y bydd hyn yn ei dro yn debygol o ddenu rhagor o ymgeiswyr a fydd yn gallu cofrestru ar lein ar wefan y Ganolfan Brifysgol er mwyn cadw eu lle.
Dywedodd Andrea “Os ydynt yn brofiadol ac yn aeddfed rydym yn eu croesawu.”
Mae gennym bobl yn ymuno â ni heb yr un TGAU. Fe gawsant swydd mewn gofal cymdeithasol ond mae eu diffyg cymwysterau yn golygu mai prin yw’r cyfleoedd sydd ganddynt i symud ymlaen. Dyna le gallwn ni helpu.
“Un o amcanion Cambria yw cael gwared ar rwystrau a darparu mynediad at addysg i bobl yn Wrecsam a thu hwnt. Mae’r cwrs gradd sylfaen hwn yn esiampl wych o hynny.”
Mae Andrea ei hun wedi dychwelyd i addysg yn ddiweddarach mewn bywyd i wireddu ei breuddwydion gyrfaol ei hun, a hynny ar ôl gweithio yn ystafell reoli Heddlu Gogledd Cymru, ac ar gyfer y cyngor lleol.
“Dwi wedi bod yn yr un sefyllfa fy hun. Yn ystod y ganrif ddiwethaf, wedi i fy mhlant dyfu, es ati i ennill gradd a chymhwyster TAR er mwyn gwireddu fy mreuddwyd o gael bod yn athrawes” meddai.
“Mae llwyddiant addysgol o fewn cyrraedd pawb, waeth beth fo’u cefndir. Yr hyn sy’n bwysig yw brwdfrydedd, ymrwymiad, gwaith caled a’r awydd i ddysgu. Nid yw’n fater o ba mor ddeallus yw unigolyn.
“Mae hyder yn allweddol ac rydym yn gwerthfawrogi y gall dychwelyd i’r dosbarth fod yn frawychus, ond mae gennym dîm arbennig a fydd yn gwneud eu gorau i sicrhau bod y trawsnewid mor rhwydd â phosibl.
“Mae llawer o swyddi ar gael ac mae angen hyfforddi ymgeiswyr sydd â sgiliau gwell, rhagor o brofiad ac sydd wedi’u haddysgu. Rydym yn gobeithio felly y bydd y bartneriaeth hon â Phrifysgol Bangor yn mynd o nerth i nerth yn y dyfodol.”
I gael rhagor o wybodaeth am FdA Iechyd a Gofal Cymdeithasol ewch i adran y Canolfan Brifysgol ar wefan Cambria: www.cambria.ac.uk/university-centre.
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle