Bydd y gwasanaeth coffa colli babanod blynyddol yn ailddechrau nos Iau 12 Hydref 2023 yng Nghapel Sant Luc yn ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd am 7pm.
Mae’r gwasanaeth ‘Forget Me Not’ yn cyd-redeg ag wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod (9-15 Hydref) ac yn cael ei drefnu gan dimau Bydwreigiaeth a Phrofedigaeth a’i arwain gan yr Adran Gofal Ysbrydol (Caplaniaeth).
Mae’r gwasanaeth wedi bod yn gysur i rieni a theuluoedd ers tro ac yn rhoi cyfle i bobl fyfyrio a dod at ei gilydd i dalu parch ac ysgrifennu neges mewn man diogel.
Dywedodd Euryl Howells, Uwch Gaplan ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae’r gwasanaeth coffa hwn yn foment bwysig i rieni a theuluoedd sydd wedi’u heffeithio gan brofiad trist iawn o golli baban.
“Mae colli babanod adeg beichiogrwydd yn alar unig iawn. Mae’r cyfnod yma yn amser i gasglu a chofio’r babanod gwerthfawr boed y golled yn ddiweddar neu yn y gorffennol pell.”
I gydnabod Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod, bydd gan Ysbyty Tywysog Philip, Llanelli, Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin ac Ysbyty Bronglais, Aberystwyth oleuadau pinc a glas yn y Capel/Ystafell Dawel. Daw’r wythnos i ben gyda’r ‘Ton o Oleuni’ ar 15 Hydref, sy’n cael ei chydnabod ar draws y byd.
Bydd cannwyll (a weithredir â batri) yn cael ei chynnau am 7pm gan yr Uwch Gaplan er cof am yr holl fabanod a oleuodd ein bywydau am gyfnod mor fyr.
Os nad ydych yn gallu mynychu’r gwasanaeth ac yn dymuno coffáu eich anwylyd, anfonwch neges at Loved.Forever.HDD@wales.nhs.uk erbyn dydd Mawrth 10 Hydref 2023
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch ag Euryl Howells dros y ffôn neu e-bostiwch 01267 227563 neu Euryl.Howells2@wales.nhs.uk
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle