Lansio Cynllun Cyllido Cydweithredol Newydd ar gyfer Bwyd Lleo

0
250

Mae cynllun grant newydd sy’n anelu at gefnogi prosiectau a mentrau bwyd lleol trwy’r sir
wedi cael ei lansio gan bartneriaid dan faner Partneriaeth Bwyd Lleol Sir Benfro.

Erbyn hyn mae’r Gronfa Datblygu Bwyd, sy’n cefnogi grantiau rhwng £1,000 a £3,000, ar gael i bobl wneud cais am arian am gyfnod cyfyngedig.

Lansiwyd y gronfa ar safle un o Beiriannau Gwerthu Bwyd Ffres PLANED yn Llanteg – lleoliad delfrydol i weld arloesi ar waith mewn bwyd lleol, lle eir ati i gynnig cymorth cynaliadwy ar gyfer cael gafael ar fwyd lleol, iach gan dyfwyr, cynhyrchwyr a chyflenwyr lleol.

Cafodd y digwyddiad ‘galw heibio’ a gynhaliwyd ar y Safle Gwerthu wrth ymyl y Siop Fferm yn Llanteg ei noddi gan Ogi. Daeth sawl aelod o’r gymuned leol draw, yn ogystal ag unigolion a grwpiau â diddordeb o bob rhan o Sir Benfro.

Hefyd, roedd Samuel Kurtz, yr Aelod o’r Senedd lleol, yno i gynorthwyo gyda’r trafodaethau ac i weld sut y mae mentrau lleol, fel y prosiectau bwyd cyfredol, wedi datblygu a thyfu hyd yn hyn, a sut y maent wedi ymwreiddio’n adnoddau allweddol yn y gymuned.

Mae Partneriaeth Bwyd Lleol Sir Benfro yn gydweithrediad rhwng Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro (PAVS), PLANED a Chyngor Sir Penfro. Mae’r sefydliadau hyn yn gweithio gyda’i gilydd i gefnogi’r sector bwyd mewn cymunedau, gan helpu i hwyluso allbynnau ac ymyriadau mwy cynaliadwy.

Yn ôl Abi Marriott o PLANED, a helpodd i hwyluso ac arwain y digwyddiad ar ran y partneriaid, “Mae lansio’r gronfa newydd ar gyfer y sector bwyd cymunedol yma yn Sir Benfro yn enghraifft wych arall o’r modd y gallwn gael gafael ar gyllid a chymorth ar gyfer ein cymunedau pan fydd sefydliadau’n cydweithio. Bydd y gronfa newydd hon yn brawf hollbwysig o’r modd y gallwn ddarparu cyllid ar gyfer y prosiectau a’r mentrau hynny sy’n cael effaith uniongyrchol ar eu hardaloedd lleol.”

Mae’r meini prawf grant a’r cais ar gael ar balet cyllido PAVS yn
https://padlet.com/lornalivock/pavs-funding-advice-service-tg8vwh5qkj5d4f2e

Os hoffech wybod mwy, ymunwch â’r rhestr bostio a/neu dewch yn rhan o Rwydwaith
Bywyd Sir Benfro, cysylltwch drwy wcfd@planed.org.uk neu 01834 860965.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle