Datblygu strategaeth newydd ar gyfer sgiliau, datblygiad a hyfforddiant i weithwyr amaethyddol yng Nghymru

0
222

 

‘Gweithio yng Nghymru…cefnogi ein gweithwyr amaeth’ … sgiliau tir, hyfforddiant a datblygiad proffesiynol parhaus dan y chwyddwydr yr hydref hwn

Ddydd Iau, 19 Hydref, bydd cynrychiolwyr gwadd o sefydliadau rhanddeiliaid gwledig allweddol gan gynnwys sefydliadau addysgol a darparwyr hyfforddiant yng Nghymru, yn mynychu cynhadledd ‘Gweithio yng Nghymru – cefnogi ein gweithwyr amaeth’, sef cynhadledd sgiliau a datblygiad proffesiynol parhaus (DPP), i’w chynnal ar faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd.

Wedi’i chynnal gan Cyswllt Ffermio ar y cyd â Phanel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru, gofynnir i gynrychiolwyr ystyried y ddarpariaeth bresennol sydd ar gael a beth arall y gallai fod angen ei roi ar waith i gynorthwyo hyfforddiant, DPP a rhagolygon gyrfa yn y dyfodol pawb sydd eisiau gweithio o fewn y sectorau amaethyddiaeth, garddwriaeth a choedwigaeth yng Nghymru yn y blynyddoedd i ddod, a hynny yn y ffordd orau.

Bydd canfyddiadau ac argymhellion y gynhadledd yn gam cyntaf pwysig tuag at ‘Galwad am Dystiolaeth’ a fydd yn cael ei lansio yn y digwyddiad ar ran is-bwyllgor sgiliau, datblygiad a hyfforddiant Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru. Dywed Cadeirydd yr is-bwyllgor, Dr Nerys Llewelyn Jones, un o brif siaradwyr y digwyddiad, y bydd adborth o’r gynhadledd yn helpu i lunio’r strategaeth ar gyfer opsiynau hyfforddiant yn y dyfodol a rhagolygon gyrfa holl weithwyr amaethyddol Cymru. Bydd y digwyddiad yn cael ei drefnu gan Cyswllt Ffermio, a ddarperir gan Menter a Busnes a Lantra Cymru, ar ran Llywodraeth Cymru.

Bydd y cynrychiolwyr a wahoddir yn cynnwys cynrychiolwyr o bob sefydliad rhanddeiliaid gwledig allweddol a darparwyr hyfforddiant gan gynnwys yr undebau amaeth, Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru, ysgolion, prifysgolion, sefydliadau addysg bellach ac uwch yn ogystal â Hybu Cig Cymru, y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB) a phartneriaid y gadwyn gyflenwi. Bydd y prif siaradwyr a gweithdai wedi’u hwyluso yn mynd i’r afael â materion gan gynnwys recriwtio, hyfforddiant a DPP gan gynnwys pwysigrwydd hyrwyddo a defnyddio’r Storfa Sgiliau, sef offeryn ar-lein diogel Cyswllt Ffermio ar gyfer cofnodi sgiliau a chyflawniadau, er mwyn denu a chadw gweithwyr amaethyddol cymwys, llawn cymhelliant a fydd yn bodloni anghenion pob busnes tir yng Nghymru yn y dyfodol.

“Mae ein diwydiant yn newid yn barhaus ac mae’n rhaid iddo fod yn broffesiynol, yn fywiog ac yn gallu bodloni gofynion amgylcheddol ac economaidd y dyfodol.”

“Ein cyfrifoldeb ar y cyd fel rhanddeiliaid gwledig yw gweithio ar y cyd, nodi bylchau yn y ddarpariaeth a mynd i’r afael ag unrhyw rwystrau neu heriau sy’n wynebu gweithwyr wrth iddynt baratoi ar gyfer dyfodol lle bydd arloesedd a thechnoleg fodern yn chwarae rhan gynyddol arwyddocaol.”

“Rhaid i ni ymgysylltu â darpar weithwyr gan gydnabod hefyd cyfraniad pwysig ein gweithlu presennol a sicrhau bod gennym ni’r cymorth a’r cyfleoedd sydd eu hangen arnynt i gyd i’w helpu i symud ymlaen, i aros yn llawn cymhelliant ac yn ysgogol i ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth ymhellach,” meddai Dr Llewelyn Jones.

Bydd rhaglen y diwrnod yn cynnwys cyflwyniadau gan siaradwyr a gweithdai wedi’u hwyluso pan fydd mynychwyr yn trafod ac yn cyflwyno argymhellion ar faterion sy’n effeithio ar yrfaoedd a rhagolygon holl weithwyr fferm Cymru. Bydd canfyddiadau cyfunol o’r gynhadledd a’r is-bwyllgor sgiliau, datblygu a hyfforddiant ‘Galwad am Dystiolaeth’, yn helpu i ddylanwadu ar strategaeth newydd ar gyfer y sector o 2024 ymlaen.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle