Gweinidog yr Economi yn lansio cynllun peilot newydd i gefnogi’r gwaith o ddysgu am yrfaoedd mewn ysgolion

0
208

Mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi lansio cynllun peilot newydd heddiw i helpu pobl ifanc i ddatblygu eu huchelgeisiau gyrfa a dysgu am y gwahanol opsiynau sydd ar gael iddynt.

Bydd cynllun peilot Gwobr Ansawdd Gyrfa Cymru yn helpu i ddatblygu gyrfaoedd o ansawdd uchel a phrofiadau cysylltiedig â gwaith ymhlith dysgwyr rhwng 3 ac 16 oed.

Wrth ymweld ag Ysgol Garth Olwg ym Mhentre’r Eglwys, un o’r 38 lleoliad ar draws y wlad sy’n cynnal rhaglen y wobr beilot, dywedodd y Gweinidog: “Mae ymgysylltu â phlant a phobl ifanc am yrfaoedd yn hollbwysig er mwyn sicrhau eu bod yn cael y dechrau gorau posibl ym myd gwaith.

“Rydym am wneud popeth o fewn ein gallu i ysbrydoli ein plant a’n pobl ifanc i gyflawni eu llawn botensial. Felly, rwy’n falch iawn y bydd y wobr beilot yn cefnogi ysgolion i ddatblygu profiadau cysylltiedig â gwaith ar draws y cwricwlwm.

“Trwy ddysgu am y gwahanol lwybrau sydd ar gael, bydd eu taith o bontio o fyd addysg i gyflogaeth lwyddiannus yn haws a bydd yn helpu i sicrhau y gallant chwarae eu rhan lawn yn ein heconomi a’n cymdeithas.”

Mae’r ysgolion sy’n cymryd rhan yn y peilot yn cynnwys ysgolion cynradd ac uwchradd, ysgolion arbennig ac Unedau Cyfeirio Disgyblion. Bydd pob un yn gweithio gyda’u cydlynydd cwricwlwm penodedig o Gyrfa Cymru i gwblhau tri cham, gan gynnwys ‘Arweinyddiaeth’, ‘Datblygiad’ ac ‘Effaith’.

Dywedodd Nikki Lawrence, Prif Weithredwr Gyrfa Cymru: “Rydym yn falch iawn o gael lansio cynllun peilot y wobr gyda’r Gweinidog heddiw.

“Gall gyrfaoedd perthnasol ac ystyrlon a phrofiadau sy’n gysylltiedig â byd gwaith gael effaith hynod gadarnhaol ar bobl ifanc.

The Minister visiting a green energy careers session with pupils of Ysgol Garth Olwg

“Yn ogystal â’u galluogi i ddatblygu dealltwriaeth, archwilio cyfleoedd a datblygu’r agweddau a’r sgiliau sydd eu hangen i oresgyn rhwystrau posibl, maent yn eu helpu i ennill gwytnwch a’r gallu i addasu.

“Mae’r wobr hon wedi’i chynllunio i gefnogi ysgolion i ddod â dysgwyr ynghyd â byd gwaith, gyda phrofiadau a all fod o fudd iddynt fel unigolyn ac yn y pen draw eu helpu i baratoi ar gyfer eu dyfodol.”

Yn ystod ei ymweliad, gwnaeth y Gweinidog gyfarfod â phennaeth yr ysgol a’r cydlynydd gyrfaoedd i ddarganfod sut y maent yn rhagweld y bydd cynllun peilot y wobr yn eu helpu i ddarparu profiadau byd gwaith effeithiol i’w disgyblion.

 Dywedodd Trystan Edwards, Pennaeth Ysgol Garth Olwg: “Rydym wrth ein bodd ein bod wedi gallu cynnal lansiad peilot newydd Gwobr Ansawdd Gyrfa Cymru.

“Fel un o’r ysgolion sy’n cymryd rhan, rydym o’r farn y bydd y cynllun peilot yn ein cefnogi i ddatblygu dull strwythuredig o wreiddio gyrfaoedd a phrofiadau byd gwaith yn y cwricwlwm.

The Minister speaking at the award launch

“Bydd hyn yn adeiladu ar y prosesau sydd ar waith gennym eisoes i rymuso dysgwyr i wneud dewisiadau gyrfa gwybodus yn y dyfodol.”

Yn ystod y digwyddiad, cafodd y Gweinidog gyfle i gwrdd â disgyblion i siarad am eu profiadau ag addysg gyrfaoedd. Gwnaeth y Gweinidog hefyd ymweld â sesiwn gyrfaoedd a gynhaliwyd gan gyflogwr, Bute Energy, a oedd yn canolbwyntio ar rolau mewn ynni gwyrdd a sgiliau trosglwyddadwy o fewn y diwydiant.

Dywedodd Catrin LeaderArweinydd Addysgl Bute Energy: “Yn Bute Energy rydym yn ymroddedig i sicrhau fod dysgwyr yn ymgysylltu’n weithredol gyda’r materion hollbwysig ynghylch newid hinsawdd mewn dulliau creadigol ac addysgiadol.

“Heddiw, cefais y fraint o dderbyn gwahoddiad i Ysgol Gartholwg i gynnal gweithdy gyda’r disgyblion a thaflu goleuni ar y llwybrau gyrfa cynaliadwy sy’n agored iddyn nhw yn y sector egni adnewyddadwy.”

Mae’r cynllun peilot yn cyd-fynd â’r Cwricwlwm i Gymru, sydd wedi cynnwys addysg gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â byd gwaith fel thema drawsbynciol orfodol ers mis Medi 2022.

Bydd tystiolaeth a gwersi a ddysgwyd o’r cynllun peilot yn cael eu defnyddio i ddatblygu a mireinio’r broses ddyfarnu cyn iddi gael ei lansio’n genedlaethol.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle