Teyrnged Teulu

0
305
Teyrnged teulu | Mae teulu menyw a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad yn ymwneud â lori a beic ar yr A476 rhwng Temple Bar a Ffairfach, Sir Gaerfyrddin ar ddydd Llun 9 Hydref yn dweud “Hi oedd ein byd cyfan a’n craig”.
Bu farw Nicolette Lewis, 52 oed, a oedd yn reidio’r beic, ar safle’r gwrthdrawiad. Mae ei theulu wedi rhyddhau datganiad i ddweud:
“Rydyn ni eisiau diolch i bawb am eu cefnogaeth a’u negeseuon twymgalon. Nid oes geiriau i’w dweud yn ystod yr amser anodd a dinistriol hwn. Yr unig beth rydyn ni’n gofyn yw i bawb barchu’r llonydd sydd ei angen arnom i alaru a dygymod â cholled drasig ein Mam a’n Gwraig brydferth.
“Hi oedd ein byd cyfan a’n craig, enaid rhyfeddol nad oedd yn haeddu gadael y bywyd hwn mor gynnar! Rydyn ni’n gwybod mai’r unig beth y mae hi ei eisiau i ni yw i ni ddod at ein gilydd a gwneud y mwyaf o’n bywydau ni gyda gwên. Gan ei bod hi bob amser yn gwenu, gyda gwydraid mawr o win yn un llaw.
“Codwn i gyd wydraid o win i Nicolette yn fuan iawn. Cysga’n dawel, enaid hardd. Llawer o gariad, Andrew, Nia, Connor, Tommy, Joe a Marvin.”
Mae’r teulu’n cael ei gefnogi gan swyddogion arbenigol.
Mae swyddogion yn parhau i ymchwilio i amgylchiadau’r gwrthdrawiad.
Gofynnir i unrhyw un a oedd o bosibl yn teithio ar hyd yr A476 ar yr amser perthnasol neu unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai helpu swyddogion gyda’u hymchwiliad i riportio hynny i Heddlu Dyfed Powys, nail ai ar-lein ar: https://orlo.uk/Ki39L, drwy anfon e-bost at 101@dyfed-powys.police.uk, neu drwy ffonio 101. Os ydych yn fyddar, yn drwm eich clyw neu os oes gennych nam ar eich lleferydd anfonwch neges destun at y rhif difrys ar 07811 311 908.
Nodwch gyfeirnod: DP-20231009-306.

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle