Elusen GIG yn ariannu llyfrau hunangymorth ar gyfer cleifion canser

0
240
Pictured above (L-R): Sally-Ann Rolls, Clinical Nurse Specialist; Linsey Jones, Macmillan Acute Oncology Coordinator and Leann Davies, Assistant Practitioner.

Diolch i roddion hael, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi gallu ariannu llyfrau hunangymorth ar reoli pyliau poeth a chwysau nos ar gyfer cleifion canser y fron.

 Pyliau poeth a chwysu yn y nos yw’r symptomau diwedd y mislif mwyaf cyffredin a achosir gan driniaethau canser y fron.

 Mae’r llyfrau hunangymorth yn darparu gwybodaeth ac offer allweddol i helpu cleifion i ddeall y symptomau a delio â nhw.

 Dywedodd Linsey Jones, Cydlynydd Oncoleg Acíwt Macmillan: “Rydym yn ddiolchgar iawn bod cronfeydd elusennol wedi caniatáu i ni brynu’r llyfrau hyn.

 “Yn flaenorol, fe wnaethom gyflwyno cwrs Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT) ar gyfer rheoli pyliau poeth a chwysu yn y nos i gleifion canser y fron sy’n profi’r sgîl-effeithiau hyn a ariannwyd diolch i roddion elusennol.

 “Mae’r holl wybodaeth am y cwrs yn cael ei darparu yn y llyfrau hunangymorth hyn, a byddwn yn rhoi’r llyfrau hyn i gleifion a oedd â diddordeb yn y cwrs hwn ond nad oeddent yn gallu ei wneud.”

 Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda a rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

 Mae eich rhoddion yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd, lles a phrofiad cleifion, defnyddwyr gwasanaeth a staff y GIG. 

I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle