Peirianwyr Openreach yn glanhau traethau Cymru

0
423

Mae peirianwyr Openreach ar hyd a lled y wlad wedi cydweithio i helpu i lanhau traethau Cymru.

Fel arwydd o’u hymrwymiad i gefnogi cymunedau, mae oddeutu 100 o beirianwyr Openreach wedi gwirfoddoli dros y mis diwethaf i helpu cymunedau’r wlad i wneud ein traethau’n fwy glân a gwyrdd.

Mae’r gwirfoddolwyr gweithgar – sy’n helpu i gysylltu cymunedau Cymru yn eu gwaith beunyddiol wrth adeiladu a chynnal rhwydwaith ffeibr cyflawn tra-chyflym Openreach – eisoes wedi casglu dros 60 bag o sbwriel wrth wneud eu gwaith.

Hyd yma, mae’r gwirfoddolwyr wedi helpu i lanhau chwe thraeth – y Borth; Southerndown; Lakeside-way Brynmawr; Llansteffan; Porthcawl a Llanberis.

Esboniodd Shaun White, uwch reolwr ardal Openreach Cymru, pa mor falch yr oedd o waith gwirfoddol y peirianwyr, “Mae ein peirianwyr nid yn unig wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau band eang o’r radd flaenaf; maent hefyd yn benderfynol o gefnogi’r cymunedau ble maent yn byw a gweithio. Mae’n wych eu bod yn neilltuo amser ac ynni er helpu i gadw ein traethau’n hardd a glân.

“Mae’r fenter yn adlewyrchu ymrwymiad ehangach Openreach i anwesu cyfrifoldebau cynaladwy ac amgylcheddol. Wrth wirfoddoli i gasglu sbwriel, mae peirianwyr Openreach nid yn unig yn helpu i ddiogelu harddwch naturiol y wlad ond hefyd yn dangos ein hymroddiad i gynnal amgylchedd a llesiant cymunedau wrth gyfrannu at ymdrechion byd-eang i ostwng llygredd plastig.”

Dywedodd Brian Mogford, swyddog amgylchedd lleol technegol Cyngor Sir Gâr “Roedd yn bleser gweld y gwirfoddolwyr yn gweithio mor galed i lanhau traeth Llansteffan. Llwyddwyd i glirio miloedd o ddarnau plastig a rhaffau nylon ymysg eraill, nid yn dasg hawdd. Ymdrech ffantastig gan bawb fydd yn sicr yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywyd môr yr ardal.”

Fel rhan o’i waith, mae Openreach wedi ymrwymo i gynnal cyfrifoldebau cymdeithasol corfforaethol wrth gynnal mentrau i gefnogi achosion da a chyrff lleol.

Mae peirianwyr Openreach yn gallu gwirfoddoli yn lleol am dri diwrnod bob blwyddyn ac wrth annog gweithwyr i gymryd rhan mewn gweithgaredd elusennol nod y cwmni yw meithrin diwylliant o gyfrannu a gwneud gwahaniaeth o fewn y cymunedau mae’n gwasanaethu.

Gyda dros 29,000 cerbyd masnachol, mae Openreach yn cynnal fflyd gerbydau ail fwyaf y Deyrnas Unedig. Ac erbyn hyn mae’r busnes yn edrych i gyflwyno cerbydau trydan (EVs) ar ddiwedd oes y cerbydau cyfredol gyda’r nod o drosi’r fflyd gyfan i EV erbyn 2030.

Yn ogystal, mae Openreach wedi diweddaru ei bolisi deunyddiau pacio sydd erbyn hyn yn galw ar gyflenwyr i isafu a throsi’r holl ddeunydd pacio i eitemau y gellir ailgylchu ac ailddefnyddio, a “deunydd o gynnwys wedi’i ailgylchu”. O ganlyniad, mae eisoes wedi dileu 64 tunnell o wastraff o’r gadwyn gyflenwi.

Openreach yng Nghymru

Gyda gweithlu o oddeutu 2,300 yng Nghymru, mae Openreach eisoes yn cyflogi tĂŽm peirianwyr a gweithwyr cysylltiedig mwyaf y genedl.

Ymchwil diweddar gan CEBR (Centre for Economics and Business Research) wedi tanlinellu’r buddion economaidd clir o gysylltu pawb yng Nghymru â ffeibr cyflawn. Amcangyfrifwyd byddai’n rhoi hwb gwerth £2 biliwn i economi Cymru.

Fideo byr yn esbonio technoleg ffeibr cyflawn a manylion pellach am ein rhaglen ffeibr, darpariaethau diwddaraf a chynlluniau lleol yma.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle