Crwydro Canol Wythnos – ymunwch â ni yn Llambed i gerdded yn y parc

0
220

Wrth i’r dyddiau fyrhau o’n cwmpas, ac wrth inni ddechrau swatio yn ein cartrefi clyd, gall meddwl am fentro allan i’r awyr agored beri gofid.

Fodd bynnag, gall codi a mynd allan i’r awyr agored ein helpu i deimlo’n well mewn sawl ffordd. Nid oes angen inni loncian neu redeg i gefnogi ein llesiant meddyliol a chorfforol – mae manteision mynd am dro ym myd natur yn hysbys iawn.

Gan gydnabod y gall cymryd y cam cyntaf hwnnw yn yr awyr agored, neu wneud amser i fynd am dro, fod yn rhywbeth sy’n llithro i waelod ein rhestr o bethau i’w gwneud, mae timau o Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn gobeithio rhoi anogaeth trwy gynllun newydd sef Crwydro Canol Wythnos.

O 25 Hydref ymlaen, mae gwahoddiad agored i aelodau o gymuned Llambed, a thu hwnt, i ymuno mewn taith gerdded wythnosol yn y parc am 1pm bob dydd Mercher.

Fel yr eglura Phil Kloer, Cyfarwyddwr Meddygol a Dirprwy Brif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Boed law neu hindda, rydym yn gwahodd unrhyw un a hoffai ymuno â ni am dro yn y parc, a hynny am 1pm bob dydd Mercher. Byddwn yn cerdded dau lwybr, un sy’n 300 metr o hyd ac un arall sy’n tua milltir o hyd, gall unrhyw un sy’n ymuno â ni ddewis yr un sydd fwyaf addas iddyn nhw ar y diwrnod.”

Bydd y daith gerdded yn cychwyn ac yn gorffen yn Ffreutur Lloyd Thomas, campws Llambed PCYDDS, a bydd pawb sy’n cymryd rhan yn y daith gerdded yn cael cynnig paned o de neu goffi am ddim i gynhesu ar y diwedd.

Meddai Phil: “Dyma gyfle gwych i aelodau o’n cymuned leol i ddod ynghyd am dro yn y prynhawn – boed hynny am gwmni, ychydig o ymarfer corff neu dim ond i gael awyr iach – mae croeso cynnes i bawb o bob oed a gallu, beth bynnag fo’r tywydd. Mae croeso hefyd i gŵn sy’n ymddwyn yn dda ar dennyn ymuno yn yr hwyl.

“Does dim terfyn amser i gwblhau’r llwybr – os hoffech chi fynd am gerddad gyflym neu gerddad ling-di-long dan sgwrsio, does dim pwysau i gadw i fyny’r naill ffordd na’r llall. Does dim angen unrhyw offer arbenigol – gwnewch yn siŵr bod gennych chi esgidiau cyfforddus, rhywbeth i’ch ‘mochel rhag y glaw, a’ch bod yn barod i dreulio peth amser yn yr awyr agored.”

Ychwanega Gwilym Dyfri Jones, Profost ar gampysau Llambed a Chaerfyrddin, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant: “Rydym yn hynod falch o fod yn rhan o’r fenter hon ac yn gobeithio y bydd rhai o’n myfyrwyr a’n staff hefyd yn manteisio ar y cyfle i ymuno. Yn gynharach eleni, enillodd y Brifysgol y Faner Werdd mewn cydnabyddiaeth o sut mae ein hystadau a’n tiroedd yn cael eu rheoli, a sut rydym yn gofalu am ein hardaloedd gwyrdd mewn ffordd sy’n annog bywyd gwyllt a’r amgylchedd naturiol. Rydym wrth ein bodd y bydd mwy o bobl yn mwynhau ein gerddi a’n mannau gwyrdd ar y campws wrth Grwydro Canol Wythnos. Dylai hyn hefyd atgyfnerthu cysylltiadau’r Brifysgol gyda’n cymuned leol.”

Anogir pobl sydd â diddordeb mewn ymuno â’r daith gerdded i ddod draw i Ffreutur Lloyd Thomas, campws Llambed PCYDDS am 1pm ar 25 Hydref. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Digwyddiadau-Events@uwtsd.ac.uk neu ffoniwch Hwb Cyfathrebu Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ar 0300 303 8322 a dewiswch opsiwn 5.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle