Awgrymiadau wrth Brynu Hyrddod

0
172
Capsiwn y llun: Hyrddod Emyr Owen, Fferm Rhiwaedog, Y Bala.

Mae tymor prynu hyrddod bellach ar ei anterth. Mae hyrddod yn cael eu dewis yn bennaf ar yr olwg gyntaf, gyda phrynwyr yn rhoi blaenoriaeth i gadernid corfforol yn ogystal â math o frid wrth ddewis eu hyrddod, gyda’r nod o drosglwyddo’r nodweddion ffisegol hyn i ŵyn y dyfodol.

Mae dewis hyrddod ar sut maent yn edrych bob amser yn gyfiawn, ond beth am ychwanegu haen arall o ddiogelwch at yr hyn y bydd yr hwrdd penodol hwnnw’n ei gynhyrchu? Dyma le mae Gwerthoedd Bridio Tybiedig (EBVs) yn berthnasol.

Wrth gwrs, rydym ni i gyd wedi clywed am werthoedd bridio a bydd llawer ohonom yn meddwl ein bod ni’n gwybod beth mae’n ei olygu – ond ydych chi WIR wedi edrych i mewn iddynt yn iawn, a sut gallai ychwanegu’r haen hon o ddiogelwch wrth brynu hyrddod effeithio ar EICH diadell?

Hyd yn oed os nad ydych yn bwriadu cofnodi perfformiad eich diadell gyfan (er bod gwneud hyn yn fuddiol iawn hefyd), gallwch barhau i brynu hyrddod â gwerthoedd bridio sy’n uwch na chyfartaledd y brid, sy’n golygu y gallwch gynyddu proffidioldeb eich diadell yn sylweddol, mewn gwirionedd, yn eithaf hawdd.

Erbyn hyn, mae’r dull o fynegi’r mynegai mynydd yng Nghymru wedi newid. Mae’r mynegai mynydd bellach yn cynrychioli gwerth economaidd manteision genynnol pob hwrdd ar gyfer nodweddion sy’n dylanwadu ar berfformiad mamogiaid. Dyma enghraifft:

Mae hwrdd A yn hwrdd ar gyfartaledd y brid, ac mae ganddo fynegai o £2.44, tra bod Hwrdd B o fewn y 10% uchaf o’r brid gyda mynegai o £12.47, sy’n cyfateb i wahaniaeth o dros £10. Bydd hanner eu geneteg yn cael ei drosglwyddo i’w ŵyn, felly byddech chi’n rhagweld y byddai merched Hwrdd B yn cynhyrchu £5 ychwanegol yn flynyddol am bob blwyddyn y byddan nhw’n aros yn y ddiadell.

Yn yr achos hwn, mae gwerthoedd bridio yn dangos y byddai merched Hwrdd B yn magu mwy o ŵyn, a fyddai’n tyfu’n gyflymach ac â gwell cyfansoddiad o’i gymharu â merched

Hwrdd A.

 

Felly, beth ydych chi’n ei feddwl? Efallai ei bod yn werth rhoi cynnig arni? Os felly, dyma rai awgrymiadau gan Sam Boon, Uwch Reolwr Bridio Anifeiliaid yn AHDB-Signet.

Gosodwch amcanion bridio wnaiff optimeiddio proffidioldeb eich diadell. Siaradwch â’r bridiwr hyrddod am eich anghenion.

Dewiswch hyrddod gyda’r gwerthoedd EBV perthnasol er mwyn cwrdd â’r amcanion hyn.

Ewch draw i wefan Signet (www.signetdata.com) i weld gwerthoedd bridio diweddaraf yr hwrdd. Cymharwch werthoedd EBV yr hwrdd yn erbyn meincnod y brid er mwyn darganfod eu cryfderau a’u gwendidau.

Cofiwch fod modd cymharu gwerthoedd EBV rhwng diadelloedd, ond nid rhwng bridiau.

Prynwch yn fuan er mwyn sicrhau dewis eang o hyrddod wedi eu cofnodi.

Mae’n talu i fuddsoddi. Gall y gwahaniaeth rhwng hwrdd cyfartalog ac un gyda gwerthoedd EBV uchel fod werth £800 yn ystod ei fywyd.

Edrychwch ar ôl iechyd ac anghenion maeth eich hwrdd i sicrhau y caiff fywyd hir a cynhyrchiol.

Peidiwch ag anghofio dilyn y protocolau bioddiogelwch cywir wrth brynu hyrddod, er mwyn lleihau’r risg o brynu clefydau/problemau iechyd.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am werthoedd bridio, cysylltwch â Thîm Geneteg Cyswllt Ffermio. Mae’r manylion cyswllt ar gael ar wefan Cyswllt Ffermio.

Diwedd.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle