Codwyd dros £1,000 ar gyfer Uned Asesu Meddygol Acíwt Glangwili

0
214
Pictured above from left to right: Rosemary Jones, Senior Sister; Henry Owen; Roy Owen and Claire Rumble, Fundraising Officer.

Mae rhoddion angladd er cof am Mrs. Olwen Ann Owen wedi codi £1,050 ar gyfer yr Uned Asesu Meddygol Acíwt (AMAU) yn Ysbyty Tywysog Philip.

Dywedodd Henry Owen, mab Mrs Owen: “Rydym yn falch iawn o allu rhoi’r arian hwn i’r Uned Asesu Meddygol Acíwt yn Ysbyty Tywysog Philip.

 “Rydym yn ddiolchgar iawn i staff AMAU am y gofal gwych a roddwyd i’n mam cyn iddi farw yn anffodus ym mis Mai. Gobeithiwn y bydd y rhodd hon yn cael ei defnyddio i brynu dwy fainc yn yr ardal awyr agored gan AMAU er mwyn i gleifion a staff allu eistedd y tu allan.

 “Hoffem ddiolch i bawb a fu mor garedig â rhoi rhodd er cof am ein mam annwyl.”

Meddai Rosemary Jones, Uwch Chwaer: “Hoffem ddiolch i deulu Mrs. Owen am y rhodd garedig a godwyd er cof amdani.

 “Rwy’n siŵr y bydd cleifion a staff am flynyddoedd i ddod yn elwa o’u haelioni, ac rydym yn ddiolchgar bod y teulu wedi ein dewis ni fel buddiolwyr yr arian hwn. Diolch.”

 Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

 

I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.elusennauiechydhyweldda.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle