Llwyddo’n Lleol 2050 yn cynnig rhaglen hyfforddiant newyddiaduraet

0
248

Mae Llwyddo’n Lleol 2050 wedi penderfynu ateb y galw wedi iddi ddod i’r amlwg fod yna ddiffyg cyfleoedd yn y maes newyddiadurol yn ardaloedd gwledig Cymru.

Mae gan y prosiect gyfle ARBENNIG i 12 person i ymuno â rhaglen hyfforddiant newyddiaduraeth 6 wythnos. Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn sesiynau wythnosol gydag arbenigwyr yn y maes ar agweddau gwahanol o fewn y maes newyddiaduraeth gan gynnwys sut i strwythuro stori dda, creu deunydd aml-gyfrwng, a defnyddio Bro360 yn ei hardal leol.

Yn ogystal â derbyn cefnogaeth arbenigol, fe fydd yna gyfle iddynt fod yn rhan o rwydwaith o newyddiadurwyr uchelgeisiol a chael profiad gwerthfawr i’w gynnwys ar ei CV.

Mae’r cyfle yn rhan o elfen ‘Mentro’ y prosiect, ac wedi’u sbarduno ar ôl clywed bod 62% o bobl ifanc mewn ardaloedd gwledig yn credu bod mwy o gyfleoedd yn y maes newyddiadurol os wyt ti’n symud i ffwrdd o adref.

Dywedodd Aled Pritchard Swyddog Prosiect Llwyddo’n Lleol: ” Rydym yn galw ar bobl ifanc rhwng 16-35 oed o ardal ARFOR (sef siroedd Sir Gâr, Ceredigion, Gwynedd ac Ynys Môn), sydd â diddordeb datblygu sgiliau newyddiadurol a’i defnyddio ar lawr gwlad i gysylltu â ni.

“Y gobaith drwy’r rhaglen yma yw ysbrydoli bobl ifanc ARFOR fod modd Llwyddo’n Lleol a thanio eu gyrfaoedd yn y byd newyddiadurol.”

Ychwanegodd Lowri Jones, Pennaeth Datblygu a Phrosiectau Golwg: “Os oes un swydd sydd ddim yn ddibynnol ar symud bant, swydd gohebydd yw honno. Mae adrodd ar straeon sy’n bwysig i bobol a’n cymunedau yn bwysig ym mhob cwr o Gymru, ac mae gohebwyr da yn gallu gwneud gwahaniaeth go iawn i gymdeithas.

“Mae bron pawb yn gallu bod yn ohebydd, ac mae’r cwrs yma’n gyfle i fagu hyder a mireinio sgiliau amrywiol. Os ydych chi’n meddwl bod gennych drwyn da am stori a sgiliau cyfathrebu da, ewch amdani!”

Dyma’r ail ffenest ymgeisio o dan yr elfen ‘Mentro’ sy’n canolbwyntio ar fireinio sgiliau newyddiaduraeth yn unig, ac mi fydd y ffenest yn agored rhwng y 4ydd  o Hydref hyd y 23ain o Hydref, 2023.

Cyn mynd ati i lenwi’r ffurflen gais fe anogir ymgeiswyr i ddarganfod fwy am y cyfle a’r gofynion drwy ddarllen y canllawiau.

Nodiadau i Olygyddion:

  • CEFNDIR ARFOR

Mae ARFOR yn rhaglen sy’n cael ei ariannu drwy Llywodraeth Cymru drwy’r cytundeb cydweithredol a Phlaid Cymru. Mae’n raglen ar y cyd gan Gynghorau Sir Gâr, Ceredigion, Gwynedd ac Ynys Môn sy’n edrych i ddefnyddio mentergarwch a datblygu’r economi i gefnogi cadarnleoedd y Gymraeg a, thrwy hynny, cynnal yr iaith. O dan Raglen ARFOR mae yna nifer o gronfeydd sy’n cynnig grantiau ariannol i fusnesau ac unigolion megis Cronfa Her ARFOR a’r Gronfa Genfnogaeth Cymunedau Mentrus. Am fwy o wybodaeth am yr uchod a rhaglen ARFOR gweler: www.rhaglenarfor.cymru

  • CEFNDIR LLWYDDO’N LLEOL 2050

Un o brosiectau Rhaglen Arfor yw Llwyddo’n Lleol 2050. Gydag allfudo teuluoedd a phobl ifanc yn cael ei gydnabod fel un o’r prif resymau am ddirywiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn y cadarnleoedd, nod Llwyddo’n Lleol 2050 yw darbwyllo pobl ifanc a theuluoedd ifanc sydd mewn peryg o adael neu sydd eisoes wedi ymadael bod modd cael dyfodol disglair, gyda swydd dda o fewn maes cyffrous, yn eu cymunedau cynhenid.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle