Bydd prosiect newydd a ariennir gan elusen yn darparu cymorth maeth a hydradu i filoedd o bobl yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro sy’n cael eu effeithio gan ddibyniaeth.
Bydd tîm Gwella Iechyd Maeth a Dieteteg Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn darparu hyfforddiant i o leiaf 65 o staff Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Dyfed (DDAS) a fydd yn cael eu grymuso i gefnogi eu defnyddwyr gwasanaeth i gael deiet iachach.
Mae’r prosiect wedi’i wneud yn bosibl gan dros £44,000 o arian grant gan NHS Charities Together, elusen genedlaethol sy’n gweithio gydag elusennau’r GIG ledled y DU gan gynnwys Elusennau Iechyd Hywel Dda – elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Mae dau aelod newydd o staff rhan-amser wedi’u penodi gan y Bwrdd Iechyd i ddarparu hyfforddiant a chymorth i staff DDAS yn ystod y broses o gyflawni’r rhaglen sy’n dod i ben ym mis Medi 2024.
Dywedodd arweinydd y prosiect Laura Thomas, Deietegydd Gwella Iechyd Arweiniol Clinigol yn Hywel Dda: “Mae pobl ag anhwylderau defnyddio sylweddau mewn mwy o berygl o faethiad a hydradiad annigonol oherwydd bwyta rhy ychydig neu fwyta bwydydd â gwerth maethol isel. Mae gan hyn oblygiadau difrifol i’w hiechyd yn y tymor hir.
“Nod y rhaglen yw adeiladu a gwella gwybodaeth gweithwyr allweddol DDAS am faeth a hydradiad. Bydd yn rhoi’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i gefnogi defnyddwyr gwasanaeth i wella eu harferion bwyta a’u hiechyd.”
Dywedodd Steffan Warren, Arweinydd Tîm DDAS: “Ni yw’r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer unrhyw oedolyn dros 18 oed sydd â phroblem cyffuriau neu alcohol yn yr ardal.
“Bydd y rhaglen yn galluogi staff DDAS i elwa’n llawn ar arbenigedd tîm Maeth a Dieteteg y Bwrdd Iechyd, gan roi’r cyfle i ni ddatblygu hyrwyddwyr maeth a all gyfeirio defnyddwyr gwasanaethau at ffynonellau cymorth a chreu adnoddau defnyddiol.
“Rydym yn gobeithio cefnogi o leiaf 3,000 o ddefnyddwyr gwasanaeth.”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Mae elusennau’r GIG yn darparu cyllid ar gyfer gwasanaethau a gweithgareddau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu fel arfer. Rydym wrth ein bodd ein bod wedi gallu cefnogi’r prosiect pwysig hwn a fydd yn dod â chymaint o fanteision i bobl ar draws y rhanbarth.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle