Elusen GIG yn ariannu adnoddau cymorth canser i helpu cleifion a theuluoedd

0
223
Yn y llun uchod (Chwith i'r Dde): Aimee Holt ac Emma Williams, Swyddogion Gwybodaeth a Chymorth Canser

Diolch i roddion hael, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi ariannu llyfrau a Phecynnau Cwmwl Canser sy’n cefnogi teuluoedd i ddeall diagnosis canser yn well ac ymdopi â phrofedigaeth.

 Mae elusen y GIG wedi ariannu amrywiaeth o adnoddau i gefnogi rhieni sy’n cael sgyrsiau gyda’u plant am ddiagnosis o ganser, ac i gefnogi plant a phobl ifanc sy’n galaru a’u teuluoedd.

 Dywedodd Emma Williams, Swyddog Gwybodaeth a Chymorth Canser: “Rydym yn hynod ddiolchgar bod cronfeydd elusennol wedi caniatáu i ni brynu’r adnoddau hyn.

 “Mae darparu gwybodaeth i blant a phobl ifanc a all eu helpu i ddeall yn well beth mae canser yn ei olygu iddyn nhw a’u teuluoedd yn ddefnyddiol iawn i deuluoedd lleol.

 “Mae’r Pecynnau Cwmwl Canser yn cefnogi cyfathrebu wrth gael sgyrsiau anodd ac yn helpu’r teulu i archwilio’r effaith emosiynol y gall diagnosis canser ei chael.

 “Mae llyfrau Winston’s Wish yn cynnig arweiniad ymarferol ac adnoddau i unrhyw oedolyn sy’n cefnogi plentyn ar ôl i rywun farw. Mae cael mynediad at y llyfrau hyn yn cefnogi ansawdd y gwasanaeth a ddarperir i blant a phobl ifanc a’u teuluoedd yn lleol.”

 Mae’r adnoddau ar gael i deuluoedd drwy’r timau Gwybodaeth a Chymorth Canser yn ysbytai Glangwili, Bronglais, Llwynhelyg a Thywysog Philip.

 Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda a rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

 Mae eich rhoddion yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd, lles a phrofiad cleifion, defnyddwyr gwasanaeth a staff y GIG.

 I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.hywelddahealthcharities.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle