Dringodd staff o Feithrinfa Twts Tywi Ben y Fan a chodwyd £3,000 ar gyfer Uned Ddydd Cemotherapi Ysbyty Glangwili.
Codwyd yr arian ganddynt fel diolch am y gofal a gafodd Rhian Môn Davies, mam i ddau fachgen sy’n mynychu’r feithrinfa, yn yr uned.
Roedd plant sy’n mynychu’r feithrinfa hefyd yn cymryd rhan yn y gwaith codi arian trwy wneud lap o’r iard chwarae.
Dywedodd Rhian: “Ym mis Mai 2022, cefais ddiagnosis o ganser y coluddyn Cam 4 a oedd wedi lledaenu i fy ysgyfaint.
“Ar ôl llawdriniaeth i dynnu’r tiwmor o fy ngholuddion, dechreuais gemotherapi ym mis Medi 2022 yn yr Uned Cemotherapi yn Ysbyty Glangwili a gwnes 14 o gylchredau, a gorffennais ym mis Mai 2023. Er mor anodd a blin yr oedd y cemo, roedd fy ymgynghorydd Dr Barrington a staff yn yr uned yn wych ac yn gwneud gwaith arbennig.
“Mae fy nau fachgen yn mynychu meithrinfa Twts Tywi ac yn gynharach eleni penderfynodd y feithrinfa godi arian ar gyfer yr uned cemo. Roeddwn yn teimlo mor ddiolchgar iddynt am ddewis rhywbeth a oedd mor agos at ein calonnau pan oeddem yn mynd trwy gyfnod mor anodd.
“Ni allaf ddiolch digon iddyn nhw am eu hamser, eu hymdrech a’u haelioni wrth godi swm mor anhygoel o arian. Diolch i Caryl, y tîm meithrin a holl blant y feithrinfa a fu’n rhan o’r codi arian. Fe wnaethon nhw i gyd waith anhygoel.”
Dywedodd Gina Beard, Prif Nyrs Ganser: “Am swm anhygoel o arian! Rydym mor ddiolchgar ac yn ostyngedig pan fydd y cyhoedd yn dewis cefnogi elusen ein bwrdd iechyd ac felly’r gwasanaethau sy’n darparu triniaethau canser.
“Rydym yn gallu defnyddio’r arian i gefnogi profiad gwell i gleifion. Mae arian a godir fel hyn yn cefnogi adnoddau megis llyfrau defnyddiol a therapi chwarae i blant pobl sy’n mynd trwy driniaeth canser, a gwelliannau yn amgylchedd yr uned sy’n ei wneud yn lle mwy cyfforddus i fynychu. Ni fyddai’r rhain i gyd yn bosibl heb godwyr arian anhygoel.”
Dywedodd Claire Rumble, Swyddog Codi Arian Sir Gaerfyrddin: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”
I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.elusennauiechydhyweldda.org.uk
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle