Diwrnod Afalau yn cynnig gwledd o ddysgu yn yr awyr agored

0
243
Llun o ddisgyblion o Ysgol Gatholig St Francis, Aberdaugleddau, gyda staff o Awdurdod y Parc, Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro a South Hook LNG.

Yn ystod Diwrnod Afalau eleni, cafodd disgyblion o bum ysgol gynradd yn Sir Benfro flas ar ffrwyth prosiect a oedd â’r nod o feithrin gwell dealltwriaeth o gynhyrchu bwyd a chysylltiad dyfnach â’n treftadaeth fwyd leol.

Cafodd y diwrnod arbennig o flasus hwn o ddysgu yn yr awyr agored ei gynnal gan brosiect Gwreiddiau/Roots, sy’n cael ei ariannu gan South Hook LNG ac sy’n cael ei redeg mewn partneriaeth gan Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Yn ystod diwrnod o archwilio, blasu a chreu yn Sain Ffraid, dysgodd y disgyblion am y gwahanol fathau o ffrwythau sy’n tyfu yn yr ardd furiog gysgodol a chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys blasu afalau a chreu sudd, hela bwystfilod bach a chreu eu bwystfilod bach eu hunain allan o glai.

Dywedodd Katie Macro, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro: “Unwaith eto, roedd ein Diwrnod Afalau yn Sain Ffraid yn brofiad dysgu awyr agored amhrisiadwy i bawb a gymerodd ran. Yn ogystal â chyflwyno’r myfyrwyr i ryfeddodau perllan afalau yn yr hydref, roedd y digwyddiad yn gyfle gwych iddynt werthfawrogi treftadaeth gyfoethog Sir Benfro o ran cynhyrchu bwyd.

“Er bod dysgu yn yr awyr agored yn berffaith i ehangu gorwelion a meithrin meddyliau creadigol, mae ganddo hefyd y potensial i hau hadau cariad gydol oes at fyd natur – lle mae plant yn darganfod y byd ac yn dod yn stiwardiaid arno.”

Wrth sôn am ymweliad y berllan fel rhan o brosiect ehangach Gwreiddiau/Roots, dywedodd Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus South Hook LNG, Mariam Dalziel: “Mae hi’n wych gweld Gwreiddiau/Roots ar waith ac yn rhoi profiad dysgu gwerthfawr a rhyngweithiol i blant mewn lleoliad arbennig iawn.”

Mae Gwreiddiau/Roots yn brosiect partneriaeth sy’n darparu sesiynau dysgu difyr yn yr awyr agored a’i nod yw meithrin gwell dealltwriaeth o gynhyrchu bwyd yn lleol a helpu i ddatblygu mannau awyr agored.

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect Gwreiddiau/Roots neu i drafod sut gall yr Awdurdod Parc Cenedlaethol helpu eich ysgol chi, cysylltwch â Tom Bean ar 07976 945245 neu anfon e-bost at tomjb@arfordirpenfro.org.uk.

I gael gwybod mwy am Ymddiriedolaeth Elusennol Arfordir Penfro, ewch i www.ymddiriedolaetharfordirpenfro.cymru.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle