Mae’r Gweinidog Iechyd wedi diolch i feddygon teulu am y cynnydd sy’n cael ei wneud wrth daclo’r dagfa 8am a’i gwneud yn haws i bobl gael apwyntiadau
Fodd bynnag, dywedodd y Gweinidog bod angen gwneud mwy i sicrhau bod pawb yng Nghymru yn gallu disgwyl yr un gwasanaeth, a galwodd ar y cyhoedd i helpu drwy leihau rhai o’r 80,000 o apwyntiadau sy’n cael eu methu bob mis.
Mae 95% o feddygfeydd ledled Cymru wedi dweud eu bod bellach yn darparu cymysgedd o apwyntiadau o bell, apwyntiadau wyneb yn wyneb, apwyntiadau brys ac apwyntiadau wedi’u trefnu ymlaen llaw. Yn ogystal â hynny, erbyn hyn, gall pobl gysylltu â’u meddygfa drwy gydol y dydd i wneud apwyntiad.
Mae’r meddygfeydd hyn hefyd wedi dweud eu bod wedi rhoi hyfforddiant i staff. Bellach, gall staff gyfeirio pobl at y gofal sy’n iawn iddyn nhw, at wasanaethau eraill, fel fferyllfeydd neu optegwyr, lle bo hynny’n briodol, neu gynnig apwyntiad yr un diwrnod neu yn y dyfodol i bobl, os yw’r mater yn un llai brys.
Er mwyn adeiladu ar y gwaith hwn, bydd meddygfeydd yn casglu adborth gan gleifion, ac yn gweithredu ar yr adborth hwn, er mwyn sicrhau y gallan nhw barhau i wella mynediad ar gyfer y cymunedau y maen nhw’n eu gwasanaethu.
Fel rhan o’r contract newydd gyda meddygon teulu sy’n dod i rym y mis hwn, mae meddygfeydd eraill yn gweithio tuag at weithredu newidiadau i hwyluso’r broses o gael apwyntiad.
Mae’r Gweinidog Iechyd hefyd wedi annog y cyhoedd i ystyried sut y gallan nhw helpu i wella mynediad at feddygon teulu drwy fynd i bob apwyntiad neu ganslo apwyntiadau os nad ydyn nhw eu hangen mwyach i ryddhau apwyntiadau ar gyfer pobl eraill.
Mae data o’r flwyddyn ddiwethaf yn dangos nad yw tua 80,000 o bobl ledled Cymru, ar gyfartaledd, yn mynd i’w hapwyntiadau bob mis.
Dywedodd y Gweinidog, Iechyd Eluned Morgan:
“Mae meddygon teulu a’u staff wedi gweithio’n ddiflino yn wyneb pwysau parhaus, ac rwyf eisiau diolch iddyn nhw am eu hymrwymiad i wella mynediad.
“Dylai cleifion allu cysylltu â’u meddygfa drwy gydol y dydd i drefnu apwyntiad, gan osgoi’r ‘dagfa 8am’ sy’n achosi rhwystredigaeth i lawer. Mae’r rhan fwyaf o feddygfeydd eisoes wedi dechrau gwneud hyn ac mae eraill yn gweithio tuag at roi prosesau newydd ar waith i gyflawni hyn.
“Meddygon teulu yw’r cam cyntaf ar daith gofal iechyd rhywun, ac mae’n hanfodol bod pawb yn gallu cael eu gweld, eu brysbennu, eu trin neu eu hatgyfeirio at wasanaeth mwy priodol mor gyflym ac effeithlon â phosibl. Fodd bynnag, mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae wrth wella’r gwasanaeth: mae tua 80,000 o apwyntiadau yn cael eu methu bob mis. Os nad yw pobl yn aildrefnu apwyntiadau, maen nhw’n amddifadu pobl eraill o’r cyfle i weld eu meddyg teulu, a all gael sgil-effaith ar rannau eraill o’r GIG. Rwy’n annog pawb i fynd i’w hapwyntiadau neu i aildrefnu cyn gynted â phosibl os na allan nhw fynd, fel bod pawb sydd angen gweld meddyg teulu yn gallu cael eu gweld.”
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle