Cynigion ar gyfer parc ynni newydd ac uchelgeisiol ar y ffin rhwng Sir Gaerfyrddin a Cheredigion

0
381

Ar hyn o bryd mae Galileo wrthi’n gweithio ar gynlluniau ar gyfer parc ynni newydd, Bryn Cadwgan, wedi’i leoli ar y ffin rhwng Sir Gaerfyrddin a Cheredigion, oddeutu 10km i’r dwyrain o Lanbedr Pont Steffan, 10km i’r de o Dregaron a 16km i’r gogledd o Lanymddyfri. Mae rhanddeiliaid a thrigolion lleol yn cael eu hannog i ddweud eu dweud. 

 Mae’r cynnig wedi’i osod yn erbyn cefndir yr argyfwng hinsawdd, a’r angen i symud at ffynonellau ynni mwy cynaliadwy er mwyn lleihau ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr. 

 Os caiff Parc Ynni Bryn Cadwgan ei gymeradwyo, fe allai’r tyrbinau gwynt yn unig gynhyrchu dros 75 Megawat (MW)digon i bweru hyd at 115,000 o gartrefi. 

 Gallai’r ynni gwynt yn unig hefyd arbed hyd at 171,000 tunnell o allyriadau carbon deuocsid y flwyddyn, gan helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a chefnogi Cymru i gyrraedd ei tharged o allyriadau nwyon tŷ gwydr sero net erbyn 2050. 

 Bydd y cynigion yn helpu i gyflawni ymrwymiadau sero net Llywodraeth y DU, y Senedd a Chynghorau Sir Caerfyrddin a Cheredigion, gan sicrhau bod ynni adnewyddadwy yn chwarae rhan allweddol o’n sicrwydd ynni yn y dyfodol. 

 Mae’r prosiect hwn yn ei gyfnod cynnar iawn a bydd cyfleoedd i randdeiliaid a thrigolion lleol gymryd rhan rhwng nawr a phan gyflwynir cynlluniau yn 2024. 

 Mae Galileo wedi trefnu dau ddigwyddiad galw heibio cyhoeddus fel y gall y gymuned weld y cynlluniau hyn a siarad â thîm y prosiect: 

  • Dydd Mercher 8 Tachwedd 2023, 11am-3pm yn Neuadd y Pentref, Llanddewi Brefi, Tregaron SY25 6RL 
  • Dydd Iau 9 Tachwedd 2023, 3pm-7pm yn Neuadd Pumsaint, Pumsaint, Llanwrda SA19 8UW 

     Mae rhagor o wybodaeth a ffurflen adborth ar gael ar wefan y prosiect: bryncadwganenergypark.co.uk. 

Meddai Leslie Walker, Uwch Reolwr Prosiect (Cymru) yn Galileo: 

“Mae Parc Ynni Bryn Cadwgan yn cynnig cyfle cyffrous i hybu economi un o rannau mwyaf gwledig Cymru. Bydd datblygu parc ynni ar ffin Sir Gaerfyrddin / Ceredigion yn dod â swyddi newydd i mewn a bydd y gymuned leol hefyd yn gweld gwelliannau trwy ein Cynnig Cymunedol hael. Edrychwn ymlaen at siarad â thrigolion, busnesau, a rhanddeiliaid allweddol eraill dros y misoedd nesaf wrth iddynt ddysgu mwy am y prosiect uchelgeisiol hwn.” 


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle