Elusen y GIG yn prynu setiau teledu ar gyfer Uned Gofal Dwys Glangwili

0
297
TVs for ICU
TVs for ICU

Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi gallu prynu tri set deledu ar gyfer yr Uned Gofal Dwys (ICU) yn Ysbyty Glangwili, diolch i roddion.

 Dywedodd Tammy Bowen, Uwch Brif Nyrs: “Rydym yn ddiolchgar iawn bod cronfeydd elusennol wedi ein galluogi i brynu tri set deledu newydd ar gyfer yr Uned Gofal Dwys.

 “Mae’r Uned Gofal Dwys yn amgylchedd prysur a swnllyd i gleifion oherwydd bod y peiriannau a’r larymau’n gwneud synau’n barhaus drwy’r dydd a’r nos. Trwy ddarparu setiau teledu i gleifion mae’n tynnu sylw oddi wrth synau’r larymau peiriant. Bydd hyn yn rhoi teimlad o normalrwydd a chynefindra i gleifion, a fydd, gobeithio, yn hybu iachâd.

 “Mae ymchwil wedi canfod yn gyson bod cerddoriaeth a thynnu sylw yn lleihau deliriwm, yn gwella lles cleifion, yn cyflymu adferiad ac yn helpu i hwyluso rhyddhau llwyddiannus.”

 Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”

 I gael rhagor o fanylion am yr elusen a sut y gallwch chi helpu i gefnogi cleifion a staff lleol y GIG, ewch i www.elusennauiechydhyweldda.org.uk


[donate]

Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever.

If you believe in independent journalism,then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation.

We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging.

Read More About Supporting The West Wales Chronicle

LEAVE A REPLY

Please enter your comment!
Please enter your name here