Mae elusen GIG yn eich herio i ymgymryd â llinell sip gyflymaf yn y byd

0
323
Zip World

Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi cyhoeddi eu Sialens Llinell Sip 2024 a fydd yn gweld codwyr arian yn ymgymryd â llinell sip gyflymaf y byd!

Yn cael ei chynnal ar 23 Mawrth 2024, bydd y sialens yn gweld hyd at 20 o godwyr arian yn hedfan i lawr llinell zip Velocity yn Chwarel y Penrhyn ar gyflymder o 100mya.

Wedi’i lleoli yng ngogledd Cymru ger cadwyn fynyddoedd syfrdanol yr Wyddfa yn yr hyn a fu unwaith yn chwarel lechi fwyaf y byd, mae Zip World Chwarel y Penrhyn yn darparu teithiau sip gwefreiddiol 500m uwchben llyn glas llachar y chwarel.

Gall cyfranogwyr gystadlu gyda ffi gofrestru ostyngol o £25 na ellir ei had-dalu ac yna mae’n ofynnol iddynt godi lleiafswm o £150 i’r elusen.

 Mae Sialens Llinell Sip 2024 yn agored i gyfranogwyr 18 oed a hŷn, ac mae lleoedd ar gael ar sail y cyntaf i’r felin.

Dywedodd y Swyddog Codi Arian, Bridget Harpwood: “Rydyn ni’n gyffrous iawn am ein Sialens Llinell Sip, rydyn ni’n meddwl y bydd yn ddiwrnod gwefreiddiol i’n codwyr arian! Os oes gennych chi ddiddordeb mewn creu profiad gwirioneddol cofiadwy wrth godi arian ar gyfer eich elusen GIG, beth am roi cynnig arni?”

 I archebu eich lle ar Sialens Llinell Sip 2024 ewch i: Sialens Llinell Sip 2024 – Elusennau Iechyd Hywel Dda (gig.cymru)


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle