Archwilio Cymru ar Droed ac ar y Trên

0
227
Go Jauntly App

Transport For Wales News

Beth am gael eich ysbrydoli gan dros 100 milltir o deithiau cerdded o orsafoedd rheilffordd ledled Cymru gydag ap cerdded a llesiant Go Jauntly sydd ar gael yn rhad ac am ddim.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â Go Jauntly i greu 33 o lwybrau cerdded wedi’u harwain gan luniau yn Gymraeg ac yn Saesneg i’n gorsafoedd rheilffordd ac oddi yno, gan dynnu sylw at wahanol lefydd o ddiddordeb ar hyd y ffordd.

O Sir Benfro i Sir Gaerfyrddin, Powys i Gonwy a Wrecsam i Gaerdydd mae teithiau cerdded ar draws y wlad wych hon i bawb eu mwynhau; taith gerdded berffaith ar gyfer hanner tymor – https://walks.gojauntly.com/users/transportforwales

Mae llawer o safleoedd treftadaeth ar hyd y llwybrau hefyd, felly beth am fanteisio i’r eithaf ar gynnig Cadw 2 docyn am bris 1. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw cyflwyno tocyn trên TrC dilys; mae plant hefyd yn teithio am ddim gydag oedolyn sy’n talu am docyn ar ein trenau.

Dywedodd Melanie Lawton, Arweinydd Strategol Rheilffyrdd Cymunedol Trafnidiaeth Cymru:

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at lansio 33 o deithiau cerdded newydd o’n gorsafoedd trenau ledled Cymru, ac rydyn ni’n gobeithio y bydd hyn yn annog pobl i archwilio ein cymunedau gwych a’r awyr agored.

“Gyda dros 100 milltir o lwybrau cerdded ar gael a phob un ar gael drwy ap, rydyn ni’n cefnogi twristiaeth gynaliadwy a’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu.”

Dywedodd Hana Sutch, Prif Swyddog Gweithredol a Chyd-sylfaenydd Go Jauntly:

“Mae mor gyffrous cyhoeddi bod Go Jauntly yn ehangu i Gymru ac rydyn ni’n falch iawn o fod yn gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru i annog mwy o bobl i archwilio’r wlad hyfryd hon. Mae teithiau trên ac anturiaethau epig yn yr awyr agored ar droed yn mynd law yn llaw, ac ni allwn aros i ddefnyddwyr grwydro Cymru drwy ddilyn un o’n 33 o lwybrau cerdded.”

Mae Go Jauntly yn darparu llwyfan cymunedol sydd wedi ennill gwobrau i hyrwyddo cerdded ar gyfer hamdden, teithio llesol a chreu cysylltiad â natur. Mae’r ap addas i deuluoedd ar gael am ddim i bob defnyddiwr ar iOS ac Android.

Lawrlwythwch yr ap cerdded am ddim er mwyn cael gwyddoniadur maint poced o deithiau cerdded trefol, yma:

App Store: https://apps.apple.com/us/app/go-jauntly-discover-walks/id1150399087

Google Play: https://play.google.com/store/apps/details?id=com.gojauntly.app&referrer=utm_source%3Dwalks-website%26utm_medium%3Dshare-page&pli=1


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle