Mae Gyrfa Cymru wedi cyhoeddi’r cyflogwyr sydd ar restr fer eu Gwobrau Partneriaid Gwerthfawr 2023.
Mae cyfanswm o 40 o sefydliadau wedi cyrraedd y rhestr fer mewn wyth categori ar gyfer darparu cymorth gyrfaoedd rhagorol i ddisgyblion mewn ysgolion.
I gyd-fynd â dathliad deng mlynedd Gyrfa Cymru fel cwmni Cymru gyfan, mae’r gwobrau’n cael eu noddi gan Weinidog yr Economi, Vaughan Gething, a byddant yn cael eu cynnal ar 22 Tachwedd yn adeilad y Pierhead ar ystâd y Senedd yng Nghaerdydd.
Mae’r gwobrau yn gyfle i Gyrfa Cymru gydnabod cyflogwyr sydd wedi gweithio gyda nhw i ddarparu profiadau gyrfa sy’n cael effaith ac atyniadol i ddisgyblion yng Nghymru dros y 12 mis diwethaf.
I ddathlu deng mlynedd ers sefydlu’r cwmni Cymru gyfan, mae eleni’n cynnwys gwobr ychwanegol i gydnabod cyflawniad rhagorol cyflogwyr sydd wedi cefnogi ysgolion dros y degawd diwethaf.
Trwy weithio’n agos gydag ysgolion, mae’r sefydliadau hyn yn cefnogi pobl ifanc i wneud cysylltiadau rhwng yr hyn y maent yn ei ddysgu yn yr ysgol a’r byd gwaith ac i ddeall y cyfleoedd sydd ar gael iddynt.
Dywedodd Nikki Lawrence, prif weithredwr Gyrfa Cymru: “Rydym yn falch iawn o gael cynnal Gwobrau Partneriaid Gwerthfawr 2023 eleni gyda chefnogaeth Gweinidog yr Economi.
“Mae’r digwyddiad hwn yn ein galluogi i ddiolch i fusnesau am ddarparu profiadau ystyrlon i ddisgyblion a’u grymuso â gwybodaeth yn ymwneud â gwaith a fydd yn eu helpu i lunio eu dyfodol.
“Mae dod â chyflogwyr ac ysgolion ynghyd i ddarparu addysg gyrfaoedd gwerthfawr yn helpu i ysbrydoli ac ysgogi cenhedlaeth iau a gweithlu’r dyfodol yng Nghymru.
“Mae 2023 yn flwyddyn arbennig i’r gwobrau, wrth i ni ddathlu degawd fel cwmni Cymru gyfan a chydnabod un cyflogwr sydd wedi mynd gam ymhellach dros y ddegawd i helpu pobl ifanc i ddysgu mwy am fyd gwaith.
“Rwy’n edrych ymlaen at groesawu’r holl sefydliadau ar y rhestr fer i adeilad hanesyddol y Pierhead ar 22 Tachwedd a dymunaf pob lwc iddynt.”
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: “Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fuddsoddi yng nghenedlaethau’r dyfodol a darparu’r offer sydd eu hangen ar bobl ifanc i adeiladu gyrfaoedd llwyddiannus yn y dyfodol.
“Diolch i’r cyflogwyr sydd ar y rhestr fer yn y Gwobrau Partneriaid Gwerthfawr eleni am roi’r cyfle i bobl ifanc ryngweithio â nhw, gan ganiatáu iddynt ehangu eu gorwelion a darganfod ble mae eu diddordebau. Bydd yn helpu i sicrhau y gallant fod ar flaen y gad wrth helpu ein busnesau Cymreig i arloesi a thyfu.
“Hoffwn hefyd ddiolch i’n gwasanaeth gyrfaoedd cenedlaethol rhagorol, Gyrfa Cymru, am eu gwaith caled dros y ddegawd ddiwethaf. Pob lwc i bawb a enwebwyd.”
Y rhestr lawn o gategorïau a’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yw:
Gwobr 10 Mlynedd Cyflawniad Eithriadol
- Castell Howell
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
- Morgan Sindall Construction
- Principality
- The Celtic Collection
Newydd-ddyfodiad Gorau
- Bute Energy
- In The Welsh Wind Distillery
- JCB
- Robertson
- Wrexham Lager
Y Berthynas Barhaus Orau gydag Ysgol
- Dwr Cymru
- Microchip
- Morganstone
- Rhaglen Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru
- Welsh Slate
Busnesau Bach Mwyaf Cefnogol
- Kidslingo/Meithrinfa Wibli Wobli
- LGD Twist Salon
- Newport Pets
- Ripples Marketing
- The A2B Tyre Shop
Cyfraniad Personol Eithriadol
- Chris Hooper – Cyngor Bwrdeistrefol Sirol Torfaen
- Colette Affaya – Airbus
- Gwenno Williams – Cyngor Gwynedd
- Kathy Roberts – Brother Industries UK
- Rhys Bebb – Screen Alliance Wales
Cyflogwr Profiad Gwaith Mwyaf Cefnogol
- Brooklyn Motors
- Cefn Mably Farm Park
- Cottage Coppicing
- M Delacy & Sons Holding Ltd
- Jac-Y-Do Nursery
Hyrwyddwr Gorau’r Gymraeg yn y Gweithle
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
- Canolfan S4C Yr Egin
- Griffiths
- ISG
Cefnogwr Gorau’r Agenda Sero Net
- Adra
- Bluestone Wales
- EDF Renewables UK
- Viridor
- Wynne Construction
Help keep news FREE for our readers
Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle