Apêl elusen y GIG am anrhegion Nadolig bach sy’n gwneud gwahaniaeth mawr

0
161
Uchod: Mandy Rayani, Cyfarwyddwr Nyrsio, Ansawdd a Phrofiad y Claf (yn y canol, gyda chyrn!) yn ymuno â Thîm Elusennau Iechyd Hywel Dda i gychwyn eu gwaith codi arian dros y Nadolig

Mae Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, wedi lansio apêl Nadolig sy’n rhoi cyfle i gymunedau lleol brynu anrhegion bach i gleifion sy’n gorfod treulio cyfnod yr ŵyl yn yr ysbyty.

 Bellach yn ei hwythfed flwyddyn, mae apêl Anfonwch Anrheg yn galluogi cefnogwyr i brynu anrheg o ddetholiad o eitemau sydd wedi’u dewis yn ofalus gan dîm Profiad y Claf y bwrdd iechyd. Bydd pob anrheg o fudd i glaf sy’n cael ei dderbyn i’r ysbyty neu sy’n aros yn yr ysbyty dros gyfnod y Nadolig drwy ddarparu eitemau iddynt i wneud eu harhosiad yn fwy cyfforddus.

Mae’r anrhegion a ddewiswyd ar gyfer apêl Anfonwch Anrheg eleni yn cynnwys eitemau fel pethau ymolchi, masgiau llygaid, cynhyrchion gwallt, llyfrau pos ac eitemau tynnu sylw.

Bydd tair sir Hywel Dda – Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro – yn elwa o’r apêl, gyda rhoddion yn cael eu dosbarthu ar draws yr holl ysbytai gan dîm Profiad y Claf.

Yn ogystal, bydd yr elw o Ddiwrnod Siwmper Nadolig Hywel Dda eleni (8 Rhagfyr), sy’n gwahodd cefnogwyr i wisgo eu hoff wisgoedd Nadoligaidd a rhoi rhodd, yn mynd tuag at brynu eitemau ar y rhestr anrhegion.

Dywedodd Louise O’Connor, Cyfarwyddwr Cynorthwyol (Cymorth Cyfreithiol a Chleifion): “Mae’r apêl Anfonwch Anrheg yn gyfle i wneud rhywbeth arbennig i’r rhai na allant fod adref ar gyfer yr ŵyl.

“I bawb sy’n dewis rhoi anrheg, diolch enfawr am eich cefnogaeth. Bydd prynu rhywbeth bach i glaf fel eitem ymolchi neu lyfr posau yn gwneud gwahaniaeth mawr i’w Nadolig.”

I gefnogi’r apêl a rhoi anrheg, ewch i’r Rhestr Anrhegion yn: https://amzn.eu/if9QL51

I gymryd rhan yn Niwrnod Siwmper Nadolig i gefnogi’r apêl, cysylltwch â’r elusen: fundraising.hyweldda@wales.nhs.uk / 01267 239815 Gellir gwneud cyfraniad o £3 i’r apêl drwy decstio GIVEAGIFT i 70490.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle