Sioe flynyddol Clwb Henebion yn codi £200 i elusen GIG

0
293
Pictured above (L-R): Claire Rumble, Fundraising Officer; Denise Maters, Amy Carroll, Baby Elsi Morgan, Jenny Jo Morgan, Mared Davies, Baby Bleddyn, Nigel Bryant and Glyn Bryant

Mae Clwb Henebion Dyffryn Tywi wedi rhoi £200 yn hael i’r Uned Gofal Arbennig i Fabanod (SCBU) yn Ysbyty Glangwili.

Mae Clwb Henebion Dyffryn Tywi yn sefydliad dielw wedi’i leoli yn Sir Gaerfyrddin. Mae gan aelodau’r Clwb amrywiaeth eang o hen bethau fel tractorau, ceir a beiciau modur.

Cynhaliodd y Clwb ei 29ain sioe henebion flynyddol ym mis Mehefin ar Faes Sioe Pontargothi.

Dywedodd Mared Davies, Aelod o’r Clwb Henebion: “Cafodd fy mab, Bleddyn Dafi Bryant, ofal a chefnogaeth hanfodol yn yr uned yn ystod wythnos gyntaf ei fywyd. Roedd y staff yn gefnogol a chyfeillgar iawn.”

Dywedodd Sandra Pegram, Rheolwr yr Uned: “Rydym mor ddiolchgar am y rhodd hael hwn i’r Uned Gofal Arbennig i Fabanod a fydd yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau a gweithgareddau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu fel arfer. Bydd yn gwneud gwahaniaeth mor gadarnhaol i brofiad ein cleifion a’u teuluoedd. Diolch enfawr oddi wrthym ni i gyd!”

Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda, elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: “Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda a rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.Set featured image


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle