Annog pobl sy’n agored i niwed yn glinigol i gael eu brechu y gaeaf hwn

0
303
mhorwood Covid 19 Oxford-Astrazeneca Vaccine

Welsh Government News

Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru wedi galw ar bobl sy’n agored i niwed yn glinigol i ddod ymlaen i gael eu brechiadau gaeaf i’w hamddiffyn eu hunain a’r gwasanaeth iechyd.

Gydag ychydig dros draean o’r rhai sy’n gymwys wedi cael eu brechiad atgyfnerthu COVID-19, dywedodd Dr Frank Atherton ei bod yn hanfodol bod y rheini sy’n wynebu’r risg uchaf o salwch dros y gaeaf yn derbyn y gwahoddiad i gael brechlyn COVID neu’r ffliw.

Mae’r data diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos, er bod y niferoedd sydd wedi manteisio ar y brechlyn wedi bod yn gyson ymhlith y rhai 65 oed a hŷn, bod y bobl mewn grwpiau risg clinigol wedi bod yn araf i ddod ymlaen.

Mae miloedd o bobl yng Nghymru yn cael eu derbyn i’r ysbyty gyda salwch anadlol bob gaeaf. Gyda’r galw ar GIG Cymru yn parhau’n uchel, brechiadau yw un o’r ffyrdd gorau o helpu i leihau’r pwysau ar y GIG y gaeaf hwn.

Lansiwyd Rhaglen Frechu’r Gaeaf yn erbyn Feirysau Anadlol ar 11 Medi 2023 ac mae’n cynnig brechlynnau COVID-19 a’r ffliw am ddim i bobl dros 65 oed a phobl ieuengach sy’n agored i niwed yn glinigol.

Mae gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen hefyd wedi cael eu hannog i ddod ymlaen i gael eu brechlyn gaeaf.

Dywedodd Dr Frank Atherton, y Prif Swyddog Meddygol:

Brechu yw’r ffordd fwyaf diogel a mwyaf effeithiol o amddiffyn y rhai sy’n agored iawn i niwed yn sgil feirysau anadlol neu’r rhai sydd mewn perygl o gael eu derbyn i’r ysbyty. Dyma pam rwyf am annog pawb sy’n gymwys i gael brechlyn COVID-19 a’r ffliw am ddim i fanteisio ar y cynnig hwn. Cael y brechlyn yw’r peth gorau y gall pawb ei wneud i amddiffyn eu hunain a helpu i atal ein gwasanaeth iechyd rhag cael ei lethu y gaeaf hwn.

“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi dod ymlaen hyd yma, ac annog y rhai sydd heb ddod ymlaen eto i gael eu hamddiffyn cyn y bydd tymor y ffliw ar ei anterth, sy’n aml yn cyd-fynd â’r pwysau mwyaf ar ein hysbytai a’r adeg y daw ein teuluoedd at ei gilydd ar gyfer tymor yr ŵyl.”

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan:

“Hoffwn ddiolch i’n timau imiwneiddio yn y byrddau iechyd ac mewn gofal sylfaenol sy’n gweithio mor galed i gyflawni Rhaglen Frechu’r Gaeaf yn erbyn Feirysau Anadlol. Maen nhw eisoes wedi darparu mwy na miliwn o frechiadau gaeaf yng Nghymru y tymor hwn. Ond os ydych chi’n gymwys ac nad ydych chi wedi dod ymlaen eto, nawr yw’r amser i gael eich amddiffyn.”

Esboniodd Dr Christopher Johnson, Epidemiolegydd Ymgynghorol a Phennaeth y Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Brechiadau yw ein hamddiffyniad gorau yn erbyn clefydau difrifol. Yn y Deyrnas Unedig, mae pob brechlyn wedi bod drwy broses drylwyr i gymeradwyo ei ddiogelwch.   

“Mae feirysau anadlol yn ffynnu yn y gaeaf, gyda phlant ifanc iawn, pobl â chyflyrau iechyd a’r henoed yn eithriadol o agored i niwed. Wrth i’r tywydd oeri, mae’n haws i feirysau fel y ffliw ledaenu. Does neb eisiau bod yn sâl dros y Nadolig a’r flwyddyn newydd, felly mae’n werth cael eich brechlyn.  

“Mae unrhyw sgil effeithiau yn dilyn y brechiadau yn ysgafn iawn fel arfer ac nid ydynt yn para’n hir. Mae brechiadau yn lleihau’r tebygolrwydd o fod yn ddifrifol wael o ganlyniad i’r ffliw neu COVID-19. Mae’r brechlynnau’n ddiogel, yn effeithiol ac yn achub bywydau. Byddwn yn annog y rheini sy’n gymwys i fanteisio ar y cynnig o frechlyn cyn gynted ag y byddant yn cael eu gwahodd i’w gael.”


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle