Canolfan Tywi Sir Gaerfyrddin yn arwain o ran hyrwyddo cadwraeth treftadaeth gynaliadwy yng Nghymru

0
154

Mae Canolfan Tywi, darparwr sgiliau cadwraeth treftadaeth adeiledig yng nghanol Sir Gaerfyrddin, yn arwain ymdrech drawsnewidiol i ddiogelu a gwella treftadaeth adeiledig draddodiadol Cymru gyda ffocws cadarn ar gynaliadwyedd.

Mae gan Gymru dreftadaeth ddiwylliannol gyfoethog, gyda thua thraean o’i stoc dai yn cynnwys adeiladau traddodiadol â waliau solet. Gan gydnabod yr angen hanfodol i leihau allyriadau sy’n gysylltiedig â’r strwythurau hanesyddol hyn, mae Canolfan Tywi wedi datgelu ei rhaglenni gweledigaethol diweddaraf sy’n ceisio grymuso crefftwyr a chymunedau gyda’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i ddiogelu’r trysorau hyn wrth fynd i’r afael â phryderon amgylcheddol ar yr un pryd. Mae’r mentrau diweddaraf hyn wedi bod yn bosibl trwy gyllid gan Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU a Chyngor Sir Caerfyrddin.

Un o gonglfeini cenhadaeth Canolfan Tywi yw ei hymrwymiad i rymuso crefftwyr i ennill cymwysterau mewn Adeiladu Treftadaeth. I’r perwyl hwn, bydd y fenter ddiweddaraf – a gynhelir mewn partneriaeth â Sgiliau Adeiladu Cyfle a Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu – yn darparu rhaglen hyfforddi a lleoliad gwaith NVQ Lefel 3 i fyfyrwyr mewn Gwaith Saer Maen Treftadaeth, Gwaith Coed a Phlastro. Bydd y myfyrwyr yn ymgymryd â phedair wythnos o hyfforddiant adeiladu arbenigol, blwyddyn o asesu a lleoliadau gyda chwmnïau lleol yn ymgymryd â phrosiectau treftadaeth. Bydd hyn yn rhoi’r profiad ymarferol hanfodol sydd ei angen ar gyfer y cymhwyster i’r myfyrwyr ac yn eu galluogi i fod yn barod am waith ar ôl ei gwblhau – a thrwy hynny llunio dyfodol cadwraeth treftadaeth yng Nghymru.

Yn ogystal â’r rhaglen hyfforddi crefftwyr hanfodol, mae Canolfan Tywi yn ymroddedig i rymuso ceidwaid a pherchnogion cartrefi ac adeiladau traddodiadol trwy gynnig hyfforddiant sgiliau traddodiadol trwy gyrsiau heb eu hachredu a digwyddiadau codi ymwybyddiaeth y cyhoedd. Mae’r mentrau hyn yn darparu gwybodaeth a chyngor amhrisiadwy ar bynciau fel atgyweirio a chynnal a chadw, gwelliannau effeithlonrwydd ynni, a defnyddio deunyddiau cynaliadwy a thraddodiadol. Cenhadaeth y Ganolfan yw gwella perfformiad allyriadau carbon adeiladau hŷn, gan sicrhau bod eu harwyddocâd hanesyddol yn cael ei gadw tra’n osgoi canlyniadau anfwriadol. Wrth wneud hynny, mae’r fenter yn ymateb yn uniongyrchol i nodau sero net Cymru drwy sicrhau bod y stoc adeiladau bresennol yn cael ei chadw a’i hôl-osod yn briodol ac yn gydymdeimladol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Yn nodedig, mae cyrsiau Canolfan Tywi wedi ennill poblogrwydd sylweddol ymhlith penseiri a pheirianwyr, gan bwysleisio’r gydnabyddiaeth gynyddol o bwysigrwydd sgiliau a deunyddiau traddodiadol wrth adnewyddu, a phrosiectau ôl-osod. Mae’r wybodaeth hanfodol hon ar fin ail-lunio tirwedd ymdrechion adeiladu ac adfer yn y dyfodol, gan gadw hanfod treftadaeth bensaernïol Cymru wrth hefyd fynd i’r afael â chynaliadwyedd.

Wedi’i lleoli yn Fferm Dinefwr, Llandeilo, mae Canolfan Tywi yn gweithredu o dan nawdd Cyngor Sir Caerfyrddin. Mae dull gweledigaethol y Ganolfan yn dynodi cam arloesol ymlaen o ran diogelu etifeddiaeth bensaernïol gyfoethog Cymru wrth fynd i’r afael â’r angen brys am gynaliadwyedd amgylcheddol.

Dywedodd Nell Hellier, Uwch-swyddog Treftadaeth Adeiledig, Canolfan Tywi:

“Rydym yn falch iawn o allu cyhoeddi ein mentrau cydweithredol diweddaraf, sydd ar flaen y gad o ran hyrwyddo cadwraeth treftadaeth gynaliadwy yng Nghymru. Bydd ein hymrwymiad i rymuso crefftwyr gyda’r sgiliau a’r wybodaeth hanfodol sydd eu hangen i warchod ein treftadaeth bensaernïol trwy ein rhaglenni hyfforddiant arloesol mewn partneriaeth â Cyfle a Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu yn amhrisiadwy i’n cenhadaeth. Drwy hyrwyddo’r cymhwyster Sgiliau Adeiladu Treftadaeth a chynnig hyfforddiant sgiliau traddodiadol i berchnogion adeiladau traddodiadol, rydym yn pontio’r bwlch rhwng traddodiad a chynaliadwyedd. Gyda’r mentrau hyn, rydym yn sicrhau bod ein hadeiladau hanesyddol nid yn unig yn sefyll prawf amser ond hefyd yn cyfrannu at ddyfodol mwy cynaliadwy i’n cymunedau.”

I gael rhagor o wybodaeth a diweddariadau ar fentrau trawsnewidiol Canolfan Tywi, ewch i www.tywicentre.org.uk


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle