Cyhoeddi rownd derfynol Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2024

0
236

Mae’r aros ar i ben i brentisiaid, cyflogwyr a darparwyr dysgu seiliedig ar waith disglair ledled Cymru wrth i’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol ar gyfer Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2024 gael eu cyhoeddi heddiw (16 Tachwedd).

Mae’r gwobrau, sy’n uchafbwynt y flwyddyn i brentisiaid, cyflogwyr a darparwyr ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith, yn cael eu trefnu gan Lywodraeth Cymru a’u cefnogi gan Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru.

Roedd gan y panel beirniadu y dasg anodd o gwtogi’r nifer fawr o geisiadau i 27 mewn naw categori. Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobrwyo a gynhelir yn ICC Cymru, Casnewydd ar 22 Mawrth 2024.

Mae’r gwobrau’n tynnu sylw at gyflawniadau rhagorol cyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith.

Fe wnaeth Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, longyfarch y rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol a diolch i’r holl gyflogwyr, prentisiaid ac ymarferwyr dysgu seiliedig ar waith a oedd wedi cyflwyno ceisiadau.

“Mae prentisiaethau yn ysgogi ac yn amrywio gweithlu, gan roi cyfle i bobl ddatblygu sgiliau galwedigaethol o ansawdd uchel ac ennill cyflog wrth ddysgu,” meddai.

 “Mae buddsoddi mewn prentisiaethau nid yn unig yn mynd i’r afael â phrinder sgiliau a bylchau mewn sectorau â blaenoriaeth sy’n hanfodol i ysgogi cynhyrchiant a thwf economaidd, ond hefyd yn creu cyfleoedd i bobl o bob oed a chefndir ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy yn y gweithle a gwella eu bywydau.

 “Prentisiaid heddiw fydd arbenigwyr yfory, a byddant yn gyfrifol am gefnogi uchelgeisiau sero net hanfodol ein gwlad ynghyd â’r economi sylfaenol bob dydd a’r gwasanaethau cyhoeddus y bydd eu hangen.”

Dyma’r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol:

Prentis Sylfaen y Flwyddyn: Chelsea Fethney o Portmead, Abertawe sy’n gweithio i Aspire Art of Hair yn Abertawe ac yn cael ei hyfforddi gan yr  Asiantaeth Hyfforddi Seiliedig ar Waith; Gwynfor Jones o Dreherbert sy’n gweithio i’r darparwr hyfforddiant Welcome to our Woods; a Kyle Read o Gaerdydd sy’n cael ei hyfforddi gan Lifetime Training, un o bartneriaid Cwmni Hyfforddiant Cambrian.

Prentis y Flwyddyn: Eleri Davies o Lanbadarn Fawr, Aberystwyth sy’n gweithio i Archwilio Cymru ac yn cael ei hyfforddi gan Grŵp Llandrillo Menai; Laura Chapman sy’n gweithio i Motonovo Finance yng Nghaerdydd ac yn cael ei hyfforddi gan ALS Training; a Megan Christie o Georgetown, Tredegar sy’n gweithio i GE Aerospace Wales, Nantgarw ac yn cael ei hyfforddi gan Goleg y Cymoedd.

Prentis Uwch y Flwyddyn: Jessica Williams o Seven Sisters, Castell-nedd sy’n gweithio i Ysgol Golwg y Cwm, Ystradgynlais ac yn cael ei hyfforddi ACT Training; Ellen Somers o Gasnewydd sy’n gweithio i Trafnidiaeth Cymru ac yn cael ei hyfforddi gan ALS Training; ac Amy Evans o Bencoed, Pen-y-bont ar Ogwr sy’n gweithio i Zimmer Biomet, Pen-y-bont ar Ogwr ac yn cael ei hyfforddi gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Talent Yfory: Heledd Roberts o Gaerfyrddin sy’n gweithio i FUW Insurance Services Ltd ac yn cael ei hyfforddi gan ALS Training; Katie Trembath o Gwm Clydach sy’n gweithio i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ac yn cael ei hyfforddi gan ALS Training; a Jacob Marshall o Bontypridd sy’n gweithio i Wasanaethau Peirianneg Cyfun, Glyn Ebwy ac yn cael ei hyfforddi gan Coleg y Cymoedd.

Cyflogwr Bach y Flwyddyn: Meithrinfa Ddydd Tiddlywinks, Castell-nedd a’u darparwr hyfforddiant yw TSW Training; Specsavers, Porthcawl a’u darparwr hyfforddiant yw Inspiro Learning; and Needle Rock a Remarkable Upholstery, Llanrhystud a’u darparwr hyfforddiant yw Myrick Training.

Cyflogwr Canolig y Flwyddyn: TRJ Ltd, Rhydaman a’u darparwr hyfforddiant yw Goleg Sir Gâr; Little Inspirations, Pontyclun a’u darparwr hyfforddiant yw Educ8 Training; ac Ysgol Maes y Felin, Treffynnon a’i darparwr hyfforddiant yw Achieve More Training.

Cyflogwr Mawr y Flwyddyn: Grŵp Whitbread plc a’u darparwyr hyfforddiant yw Cwmni Hyfforddiant Cambrian a Lifetime Training; Trafnidiaeth Cymru, Caerdydd a’u darparwr hyfforddiant yw Coleg y Cymoedd; a PHS Group, Caerffili a’u darparwr hyfforddiant yw ACT Training.

Macro-gyflogwr y Flwyddyn: Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Abertawe a’u darparwr hyfforddiant yw Coleg Gŵyr Abertawe; Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Caerdydd a’u darparwr  hyfforddiant yw ACT Training; a Grŵp Rhyngwladol Babcock (UK Aviation, RAF y Fali), Ynys Môn a’u darparwr hyfforddiant yw Grŵp Llandrillo Menai.

Ymarferydd Dysgu Seiliedig ar Waith y Flwyddyn: Sioned Roberts o Gaerdydd sy’n gweithio i Urdd Gobaith Cymru; Anne Reardon-James o Gaerffili sy’n gweithio i Panda Education and Training; a Gareth Lewis o Hirwaun sy’n gweithio i ALS Training.

Caiff y Rhaglen Brentisiaethiau ei hariannu gan Lywodraeth Cymru gyda chymorth wrth Gronfa Gymdeithasol Ewrop. I gael rhagor o wybodaeth am sut i recriwtio prentis, ewch i https://www.llyw.cymru/prentisiaethau-dewis-doeth neu ffoniwch 03000 6 03000.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle