Mae Coleg Cambria yn cynnal cyfres o ymgyrchoedd er budd iechyd a llesiant staff, myfyrwyr a’i gymuned.

0
178
Bersham Awareness

Yn eu plith oedd sesiynau gwybodaeth a chefnogaeth gyda Testicular Cancer UK a lansiad Caffi Menopos newydd.

Gwnaeth safle Ffordd y Bers y coleg gynnal digwyddiad ymwybyddiaeth canser y prostad hefyd, lle’r oedd sefydliadau ac elusennau o hyd a lled Gogledd Cymru yn bresennol.

Dywedodd Arbenigwr Iechyd a Llesiant Cambria Jo Tincello: “Rydyn ni wedi cael llawer o adborth sydd wedi bod yn gadarnhaol iawn, gyda dynion a merched eisiau darganfod rhagor am y cyflwr a pha gymorth a gwasanaethau sydd ar gael.

Roedd yr Ymgyrch Canser y Prostad yn bennaf wedi’i anelu at staff Ffordd y Bers oherwydd mae llawer o’r darlithwyr yn ddynion, ond mae’r merched yn y tîm wedi dod draw i siarad gyda’r elusennau hefyd er mwyn iddyn nhw allu pasio’r neges ymlaen i’w partneriaid, gwyr, meibion a ffrindiau.”

Ychwanegodd David Parry, cadeirydd Shooting Star Cancer Support yn Wrecsam: “Roedd y digwyddiad yma yn ddefnyddiol iawn, gan ei fod yn dod â gwahanol elusenau at ei gilydd i godi ymwybyddiaeth ac edrych ar sut allwn ni i gyd weithio’n agosach gyda’n gilydd.

“Mi roeddwn ni wrth ein bodd i fod yn rhan o’r digwyddiad a diolch i Goleg Cambria am drefnu.”

Daeth Macmillan Welfare, Prostate Cymru, a Grŵp Cefnogaeth Canser y Prostad Wrecsam i’r digwyddiad hefyd, dywedodd Mal Williams cadeirydd y Grŵp Cefnogaeth: “Y broblem fwyaf ydi dynion a’u bod nhw’n amharod i fynd a gofyn y cwestiynau cywir a mynd at y bobl iawn, i gael cyngor a gwybodaeth, oherwydd dydi llawer o bobl heb gael prawf antigen prostate-bendol (PSA) (sy’n mesur faint o antigen prostate-bendol (PSA) sydd yn eich gwaed). Dydi llawer o bobl ddim hyd yn oed yn gwybod beth ydi hynny.

“Mi wnaethom ni gynnal diwrnod ymwybyddiaeth, ac mi ddaeth mwy o ferched i’n gweld ni na dynion, sy’n anghredadwy.

Gobeithio mi fydden nhw’n mynd adref ac yn rhoi hwb i’r dynion yn eu bywydau i fynd i weld rhywun, ond rydyn ni angen dynion i fod yn fwy rhagweithiol a chymryd camau a fyddai’n gallu arbed eu bywydau nhw yn y pen draw.”

Ychwanegodd Ian Barwick, ymddiriedolwr gyda Prostate Cymru: “Rydyn ni’n ceisio codi rhagor o ymwybyddiaeth a helpu’r rhai sy’n dioddef o ganser y prostad yng Ngogledd Cymru, felly mae’r digwyddiad yma wedi bod yn werth chweil ac yn helpu i ddod â sefydliadau perthnasol at ei gilydd i wneud hyd yn oed yn rhagor ar gyfer y rhanbarth yma.”

Yn yr un modd gall Canser y Gaill effeithio ar ddynion ifanc, felly dywedodd Jo ei bod yn hanfodol bod y coleg yn parhau i godi ei broffil.

“Mi fyddwn ni’n ceisio gwneud hynny trwy gydol y flwyddyn, a gyda gwahanol ymgyrchoedd mewn gwahanol safleoedd y coleg,” meddai.

Ychwanegodd Phil Morris o Testicular Cancer UK: “Mae hi wedi bod yn wych cael y cyfle i siarad â chymaint o fyfyrwyr am ganser y gaill a phwysigrwydd gwirio eich hun a gofyn am gyngor os oes unrhyw un yn amau unrhyw beth sy’n ymddangos yn anarferol ar unrhyw adeg.”

Yn y cyfamser, bydd sesiynau Caffi Menopos y coleg yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb yn Iâl yn Wrecsam, Llysfasi, Llaneurgain a Glannau Dyfrdwy gyda holl weithwyr y coleg yn cael eu gwahodd i fynd. Yn gysylltiedig ag elusen genedlaethol Menopause Café UK, y nod ydy dod â phobl ynghyd igasglu, bwyta cacen, yfed te a thrafod y menopos”.

Unwaith eto, mae’r menopos yn effeithio’n bennaf ar un grŵp o bobl ond yn effeithio ar bawb, ac mae yna gymaint o ddiffyg gwybodaeth ac ymwybyddiaeth am y pethrydyn ni’n gwneud ein gorau i helpu i newid hynny,” meddai Jo.

Ar gyfer y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Goleg Cambria, ewch i www.cambria.ac.uk

I gael rhagor o wybodaeth am yr elusennau ewch i’w gwefan a dilynwch nhw ar gyfryngau cymdeithasol.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle