Carchar ar gyfer gyrrwr a ‘ddefnyddiodd ei gar fel arf’

0
236

Mae gyrrwr a laddodd dyn a oedd yn cerdded ger ei gartref, gan amddifadu ei deulu o ‘ŵr, tad a thad-cu ffyddlon’, wedi’i garcharu.

Canfu bod Barry Thomas, 73 oed, wedi bod yn gyrru’n rhy agos i’r car o’i flaen, gan fethu â chaniatáu digon o amser i ymateb wrth fynd heibio cerddwr, sef Brian Guest, ar y B4317 ger Ffos Las.

Fe’i cafwyd yn euog o achosi marwolaeth y dyn 61 oed yn Llys y Goron Abertawe fis diwethaf, a chafodd ei ddedfrydu ddydd Gwener 17 Tachwedd.

Clywodd y llys fod Thomas yn gyrru ei gar Mercedes du ar 23 Ionawr 2022 pan wyrodd i’r llain ar yr ochr chwith. Wrth wneud, tarodd Mr Guest, a oedd yn cerdded adref. Dioddefodd y dyn 61 oed anafiadau catastroffig a bu farw yn yr ysbyty yng nghwmni ei anwyliaid.

Gwadodd Thomas fod ei yrru’n beryglus, gan geisio rhoi’r bai ar yrrwr diniwed y gwrthdarodd ag ef hefyd. Ond rhoddwyd tystiolaeth gan yrrwr y car o flaen Thomas, a brofodd fod y diffynnydd yn rhy agos. Dywedodd y tyst wrth y llys ei fod wedi gweld Mr Guest yn cerdded tuag ato ar ei ochr chwith, a’i fod wedi symud tuag at ganol y ffordd er mwyn rhoi lle iddo. Wrth iddo wneud hyn, gwelodd gar Thomas ar ochr chwith ei gerbyd, cyn iddo daro Mr Guest.

Dywedodd y swyddog yn yr achos, y Rhingyll Sara John o Heddlu Dyfed-Powys: “Yr hyn a wnaeth y digwyddiad hwn yn fwy torcalonnus byth oedd bod gwraig Mr Guest wedi clywed cynnwrf y tu allan i’w cartref ac aeth allan i weld beth oedd yn digwydd.

“Yna sylweddolodd bod ei gŵr wedi’i daro gan gar a’i fod wedi’i anafu’n ddifrifol. Er ei fod wedi gweld y dinistr a achosodd, fe wnaeth y diffynnydd dal wadu bod ei weithredoedd gyfystyr â gyrru peryglus.”

Mewn datganiad o’r effaith ar y dioddefydd, siaradodd gwraig Mr Guest yn uniongyrchol â’r diffynnydd, gan ddweud: “Defnyddioch eich car fel arf y diwrnod hwnnw – arf a laddodd Brian. Roedd eich gweithredoedd y diwrnod hwnnw’n ocheladwy, ac nid ydych wedi dangos unrhyw edifeirwch am eich gweithredoedd. Nid yw’n bywydau’n fywydau cyffredin mwyach.”

Yn ddiweddarach, ychwanegodd teulu Mr Guest: “Mae’r diffynnydd wedi dinistrio ein bywydau, dwyn ein dyfodol gyda Brian, a chipio gŵr, tad a thad-cu arbennig, ffyddlon.”

Dedfrydwyd Thomas, o’r Gerddi yng Nghydweli, i wyth mlynedd o garchar.


Help keep news FREE for our readers

Supporting your local community newspaper/online news outlet is crucial now more than ever. If you believe in independent journalism, then consider making a valuable contribution by making a one-time or monthly donation. We operate in rural areas where providing unbiased news can be challenging. Read More About Supporting The West Wales Chronicle